Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid: Elusen Childline yn gofyn am wirfoddolwyr
- Awdur, Sion Pennar
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae Childline yn apelio am fwy o wirfoddolwyr wedi cynnydd yn nifer yr ymholiadau iechyd meddwl i'r gwasanaeth yn ystod y pandemig.
Ers Ebrill 2020, mae nifer y sesiynau cwnsela iechyd meddwl i bobl ifanc o Gymru wedi bod 13% uwch na'r cyfnod blaenorol.
Yn y cyfamser, disgynnodd nifer gwirfoddolwyr yr elusen 40% ar draws y DU.
Ymhlith problemau mwyaf cyffredin defnyddwyr y gwasanaeth mae gorbryder, iselder ac unigrwydd.
Elusen NSPCC sy'n rhedeg Childline, sy'n cynnig cefnogaeth ar-lein a dros y ff么n.
Mae dwy ganolfan alwadau yng Nghymru - yng Nghaerdydd a Phrestatyn - gyda 10 arall yng ngweddill y DU.
Rhwng Ebrill a Rhagfyr 2020, darparwyd 1,934 sesiwn cwnsela iechyd meddwl i bobl ifanc wnaeth a ddatgelodd eu bod o Gymru.
Mae hynny gyfystyr 芒 chyfartaledd o 215, sydd 13% yn uwch na'r ffigwr cyfatebol ar gyfer tri mis cyntaf 2020.
Mae'n debyg bod y niferoedd yn hwy mewn gwirionedd gan nad yw pawb yn datgelu eu lleoliad.
Yn y cyfamser, mae nifer y gwirfoddolwyr ar draws y DU wedi gostwng 40%.
Roedd gan Childline nod o gael 174 gwirfoddolwr gweithredol yng Nghymru yn 2019-20 - ond dim ond 78 sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd.
Yn 么l Vicci Holbrook-Hughes, goruchwylydd yng nghanolfan Prestatyn, mae'n sefyllfa "ddifrifol".
"Yma ym Mhrestatyn, 'dan ni i lawr 50% o ran nifer y gwirfoddolwyr, sy'n ddifrifol iawn gan fod nifer y plant a'r bobl ifanc sydd angen siarad efo ni yn cynyddu tra bod nifer y gwirfoddolwyr yn disgyn. Mae'n broblem go iawn gan nad ydan ni'n gallu siarad efo pawb," meddai.
Ychwanegodd mai dim ond dau siaradwr Cymraeg rhugl oedd ganddi ymhlith ei gwirfoddolwyr, a'i bod yn "desperate" am fwy.
"Mae llawer o'n gwirfoddolwyr yn fregus, gyda rhai yn bobl h欧n ac yn gorfod cysgodi ar ddechrau'r pandemig. Roedd yn rhaid i rai adael gan fod ganddyn nhw broblemau, cyflyrau neu resymau teuluol.
"Ar hyn o bryd, mae'r angen mwyaf am wirfoddolwyr ar gyfer penwythnosau a gyda'r nos."
I'r rheiny sy'n gwirfoddoli ym Mhrestatyn, mae straeon y bobl ifanc sy'n cysylltu gyda Childline yn dweud cyfrolau am effaith y pandemig.
"Dwi'n meddwl eu bod nhw'n methu eu bywyd a sut oedd pethau o'r blaen. Mae o wir yn effeithio eu hiechyd meddwl," meddai Sandy Collier, sy'n gwirfoddoli ers wyth mlynedd.
"Daeth hi'n amlwg cymaint mae Covid yn dal i effeithio ar bobl ifanc. Tua chwe mis wedi'r cyfnod clo [cyntaf], dwi'n cofio un person ifanc yn dweud wrtha'i eu bod yn teimlo bod popeth yn eu bywyd wedi dod i ben. Mynd i'r coleg, bod gyda ffrindiau - daeth hynny i gyd i ben.
"Doedd y person yma ddim yn meddwl am ladd ei hun, ond dyna sut oedden nhw'n teimlo achos Covid a'r hyn ddaeth wedyn."
Mae Ewa Turcanska yn gwirfoddoli gyda Childline ers 15 mlynedd, ac yn gweld teimladau defnyddwyr y gwasanaeth yn adlewyrchu'r byd o'u cwmpas.
"Yn ystod y pandemig, mae 'na lawer mwy o orbyder a phroblemau iechyd meddwl yn ymwneud 芒'r pwysau ac ansicrwydd 'dan ni i gyd yn ei deimlo achos y pandemig," meddai.
"Gyda'r ail gyfnod clo, mae mwy yn s么n am ddiffyg cymhelliad yn eu gwaith ysgol a'u bywyd personol.
"Maen nhw'n methu eu bywyd arferol a dydyn nhw ddim yn gweld diwedd i Covid."
Yn 么l Ms Holbrook-Hughes, mae llawer o bwysau ar fudiadau gwirfoddol ac mae'n annog y cyhoedd i wirfoddoli.
"Dwi'n meddwl fod 'na lawer o bobl allan yna sydd wedi ystyried gwirfoddoli i Childline yn poeni na alle'n nhw wrando ar y plant a'r bobl ifanc.
"Mae'n bwysig fod pobl yn gwybod ein bod yn darparu hyfforddiant rhagorol. Mae'n drylwyr a 'dan ni'n rhoi llawer o gefnogaeth i'n gwirfoddolwyr, sydd byth yn cael eu gadael ar eu pennau'u hunain i helpu person ifanc. Mae'r goruchwylwyr yno drwy'r amser.
"Y realiti trist yw ein bod ni i gyd [fel sefydliadau gwirfoddol] yn galw am fwy o wirfoddolwyr ac mae llawer o bobl yn rhoi'r hyn fedran nhw. Ond mae 'na bobl eraill ar y cyrion sy'n ansicr. Byddwn i'n eu hannog nhw i fynd amdani."