Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dwi jyst isio teimlo'n ddigon...'
Mewn podlediad newydd ar gyfer 大象传媒 Sounds, mae'r cerddor Non Parry yn rhannu ei phrofiadau o fyw gyda problemau iechyd meddwl mewn cyfres o sgyrsiau gyda ffrindiau a chyfoedion.
Mae'r aelod o'r gr诺p Eden wedi siarad yn agored am y ffaith ei bod yn byw gyda chyfnodau o iselder, panig a gor-bryder.
Ei gwestai cyntaf ar y gyfres yw ei chyfnither, Caryl Parry Jones, sy'n trafod ei chyfnodau hithau o fyw gyda gor-bryder ac iselder.
Fe soniodd Non wrth Cymru Fyw pam ei bod wedi dewis mynd ati i greu'r podlediad newydd.
Wedi blynyddoedd o ddioddef yn dawel gyda phroblemau iechyd meddwl nes i benderfynu "digon".
Digon ar y cywilydd a digon ar yr unigrwydd. Mewn byd sy'n aml yn disgwyl i ni fod yn fwy hyn neu'n llai llall, dwi jyst isio teimlo'n ddigon.
Mae'n hawdd iawn edych ar bawb arall a meddwl mai chi yw'r unig un sy'n stryglo ond pan ddechreuais i siarad yn agored am fy mhrofiadau i, daeth o'n hollol amlwg nad oeddwn i ar ben fy hun.
Yn y gyfres yma dwi 'di cael y fraint o siarad gyda rhestr arbennig o bobl sy'n rhannu straeon a phrofiadau personol iawn, weithiau'n amrwd, weithiau'n ffyni.
Mewn sgyrsiau hamddenol a gonest dwi a'r cyfranwyr anhygoel yma'n trafod ychydig am ein hanes, gwaith a bywyd yn gyffredinol yn ogystal 芒 chyfnodau heriol yn delio gyda amryw o gyflyrau yn cynnwys iselder, anhwylder bwyta a gorbryder.
Mae yna hefyd sgyrsiau dwi'n meddwl gall pawb yn gallu uniaethu gyda nhw fel y pwysau i ffitio mewn a chyrraedd disgwyliadau.
Yn ystod y prosiect personol yma fe wnaeth tri pheth aros gyda mi:
- Mae dod i ddeall, derbyn a bod yn agored am iechyd meddwl yn gallu bod yn broses hir a pharhaol. 'Da ni gyd yn dal i ddysgu ac addasu. Does dim un datrysiad sy'n gweithio i bawb, ond mae cefnogaeth ar gael.
- Mae pobl yn gryf. Mae pobl o'n cwmpas ni bob dydd yn wynebu heriau, yn aml yn dawel ac heb gefnogaeth ond yn dal ati. Mae cymryd amser i ddysgu mwy am yr heriau yma yn gwneud gwahaniaeth MAWR i unrhyw un sy'n dioddef o'ch cwmpas.
- Gallwn ni wneud hyn yn syml iawn trwy siarad a gwrando. Nid bod gwneud y cam cyntaf yna i siarad yn hawdd, ond trwy wneud hynny, yn ogystal 芒 gwrando ar brofiadau eraill, mae'n helpu i leihau'r teimladau unig ac ynysig yna sy'n arwain at gyfnodau tywyll.
Dwi methu pwysleisio digon faint o gryfder a chysur sydd mewn dangos ein bod ni gyd, weithiau, yn fregus.
Mi wnes i ennill gymaint a charu siarad gyda'r criw sbesial yma, a dwi'n gobeithio fydd y podlediad yma o gysur a chymorth i chi ar y siwrne i deimlo'n ddigon.
Hefyd o ddiddordeb: