大象传媒

Ysgol Abersoch: Ymestyn cyfnod ymgynghori

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Abersoch
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyngor wedi datgan bwriad i gau'r ysgol ar ddiwedd tymor yr haf

Mae Cyngor Gwynedd wedi newid cyfnod ymgynghori ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Abersoch.

Daeth y newid yn sgil cwynion gan ymgyrchwyr, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, am degwch cynnal y broses tra bod yr ysgol ar gau yn ystod y pandemig.

Fis Tachwedd fe wnaeth cabinet y cyngor bleidleisio dros gau'r ysgol yn dilyn cyfnod o ymgynghoriad.

Yn wreiddiol roedd y cyfnod ymgynghori rhwng 5 Ionawr a 16 Chwefror, ond fe fydd nawr yn cael ei ymestyn o wythnos.

Roedd y cabinet wedi cefnogi cynnal ymgynghoriad ym mis Medi, cyn i'r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi alw am ail-ystyried y mater.

Ond mae'r cyngor yn bwrw 'mlaen gyda'r cynllun, gan ddadlau nad ydy cynnal ysgol 芒 10 o blant ynddi yn ymarferol.

Mae hi'n costio 拢17,000 y flwyddyn i addysgu pob disgybl yn ysgol Abersoch tra bo'r cyfartaledd drwy'r sir yn ychydig dros 拢4,000.

Ond mae cymuned Abersoch yn awyddus i gadw'r ysgol, sydd wedi bod yn y pentref ers bron i 100 mlynedd, yn agored.

Pynciau cysylltiedig