大象传媒

Llifogydd: Dioddefwyr yn gymwys i wneud cais am 拢1,000

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd un sy'n byw yn lleol ei bod "byth wedi gweld" llifogydd tebyg o'r blaen

Bydd pob cartref sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd yng Nghymru yn gallu gwneud cais am hyd at 拢1,000 i helpu'r gwaith o'i adfer, yn 么l Llywodraeth Cymru.

Mae ardaloedd ledled Cymru wedi cael eu taro gan lifogydd yr wythnos hon, gyda mannau fel Sgiwen yng Nghastell-nedd Port Talbot, Bangor Is-Coed yn Wrecsam a Rhuthun, Sir Ddinbych wedi'u heffeithio'n ddrwg.

Cafodd teulu eu hachub gan hofrennydd ar 么l cael eu hynysu gan lifogydd ger pentref Yr Orsedd yn Wrecsam nos Iau.

Fe wnaeth Gwasanaeth T芒n ag Achub Gogledd Cymru anfon cwch i achub y ddau oedolyn a phlentyn chwech oed, oedd mewn d诺r at ei pengliniau, ond roedd yn rhy beryglus i fynd yn agos.

Bu'n rhaid galw am gymorth hofrennydd i gludo'r teulu a'i dau gi o'r eiddo anghysbell ar lannau afon Dyfrdwy am 20:20.

Bydd criwiau t芒n hefyd yn dychwelyd i Sgiwen fore Gwener i barhau i bwmpio d诺r ar 么l i'r awdurdodau gyhoeddi "digwyddiad difrifol" wnaeth effeithio o leiaf wyth stryd ddydd Iau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae criwiau t芒n wedi dychwelyd i Sgiwen fore Gwener gyda phwmpiau arbenigol

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae "nifer fawr" o gartrefi wedi bod dan dd诺r yn dilyn llifogydd yn Sgiwen, Castell-nedd Port Talbot

Mae nifer o rybuddion am lifogydd yn parhau mewn grym gan , gan gynnwys dau rybudd difrifol, wrth i'r glaw ddechrau cilio.

Mae rhybudd melyn arall am rew mewn grym dros rannau o ganolbarth a gogledd Cymru nes fore Gwener, sy'n debygol o arwain at amodau gyrru anodd.

'Amseroedd digynsail'

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths: "Yn drist iawn, rydyn ni unwaith eto wedi gweld y difrod sy'n gallu cael ei achosi gan lifogydd - y tro hwn o ganlyniad i Storm Christoph.

"Mae nifer o bobl ar draws Cymru yn wynebu'r broblem ddwbl o gartref dan dd诺r a'r pandemig coronafeirws.

"Mae'r rhain wir yn amseroedd digynsail.

"Byddwn yn cefnogi pobl yn yr amgylchiadau yma, fel y gwnaethon ni yn dilyn stormydd Ciara a Dennis y llynedd, trwy weithio gydag awdurdodau lleol i wneud taliadau o rhwng 拢500 a 拢1,000 ar gael i bob cartref sydd wedi'u heffeithio."

Ychwanegodd Ms Griffiths y byddai rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd hyd at 30 o bobl eu symud o'u cartrefi ym Mangor Is-Coed ger Wrecsam

Bu'n rhaid i tua 80 o bobl gael eu cludo o'u cartrefi yn Sgiwen ddydd Iau, gydag awgrym fod y broblem yn ardal Parc Goshen yn ymwneud 芒 safleoedd cloddio glo lleol.

Dywedodd arweinydd y cyngor sir, Rob Jones, brynhawn Iau fod "arwyddion cynnar yn awgrymu cyswllt gyda safleoedd cloddio - ond bod llif y d诺r yn ei gwneud yn anodd i wneud asesiad llawn o'r sefyllfa".

Ychwanegodd y gwasanaeth t芒n ac achub bod 11 o griwiau t芒n wedi bod yno yn rhoi cymorth i drigolion ddydd Iau, ac mae'r gwasanaethau brys wedi cadarnhau y byddan nhw'n aros yno trwy'r nos.

Mae "digwyddiad difrifol" wedi'i gyhoeddi yno, gydag asiantaethau yn ymchwilio i achos y llifogydd a'n parhau i fonitro lefel y d诺r.

Daw'r trafferthion yno yn dilyn glaw trwm Storm Christoph, wnaeth arwain hefyd at symud pobl o'u cartrefi ym Mangor Is-Coed ger Wrecsam, a Rhuthun, Sir Ddinbych.

Ffynhonnell y llun, Liahll Bruce
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pont dros afon Clwyd wedi dymchwel o ganlyniad i'r llifogydd

Yn Wrecsam, bu'n rhaid i'r gwasanaethau brys ddiogelu ffatri sy'n cynhyrchu brechlyn Covid-19 ar stad ddiwydiannol y dref am gyfnod oherwydd pryder y byddai lefel y d诺r yn codi.

Cafodd hyd at 30 o bobl eu symud o'u cartrefi ym Mangor Is-Coed, ac fe gafodd naw adeilad yn New Broughton gerllaw hefyd eu gwagio.

Bu'n rhaid i rai trigolion adael eu tai yn Rhuthun yn ogystal, ac mae cartref Clwb P锚l droed Porthmadog - Y Traeth - hefyd wedi bod dan dd诺r.

Pynciau cysylltiedig