Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd biliau treth wrth i gyllidebau wasgu
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Wrth i awdurdodau lleol Cymru osod lefelau treth y cyngor am y flwyddyn, mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi rhybuddio y bydd mwy o gartrefi yn ei chael hi'n anodd talu biliau.
Mae'r elusen yn dweud bod tua 64,000 o gartrefi wedi mynd i drafferthion ers dechrau'r pandemig, ac mae lefelau dyled treth y cyngor tua 拢13m.
Yn ogystal 芒 threthi, mae cynghorau'n talu am wasanaethau gydag arian sy'n dod gan Lywodraeth Cymru.
Cyn y Nadolig, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y byddai cynghorau Cymru yn gweld cynnydd o 3.8% mewn cyllidebau ar gyfartaledd eleni, ond mae'r cynnydd ar draws Cymru yn anghyson.
Er enghraifft fe fydd Cyngor Ceredigion yn gweld cynnydd o 2% i'w chyllideb, gyda Chyngor Casnewydd yn gweld cynnydd o dros 5%.
Mae'r setliad llywodraeth leol yn destun ymgynghoriad fydd yn dod i ben ar 9 Chwefror, cyn i Lywodraeth Cymru lunio'r gyllideb derfynol.
'Rhychwant rhwng y gwaelod a'r top'
Mae arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, wedi galw ar y llywodraeth i ailfeddwl y setliad.
"Rwy'n hynod o siomedig. Am ryw reswm, mae'r rhychwant rhwng y gwaelod a'r top yn fwy na dwi'n ei gofio fe," meddai.
"Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi galw am lawr ariannu fel bod ni'n cael ein trin yn decach.
"Fydden ni yn apelio arnyn nhw i ailedrych ar roi'r llawr i mewn fel bod ni ddim yn wynebu mwy o doriadau neu wasgfa i gynyddu treth y cyngor.
"Mae pobl Ceredigion angen y gwasanaethau."
Ychwanegodd: "Dwi ddim am godi treth y cyngor mwy na sydd rhaid. Mi fyddwn ni yn gwneud y gorau i gadw unrhyw gynnydd mor isel ac y gallwn ni.
"Ar y llaw arall, mae pobl Ceredigion yn disgwyl cael gwasanaeth. 'Da ni wedi colli 690 o swyddi o'r cyngor sir yn barod."
Yn 么l y Cynghorydd ap Gwynn mae'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar gael i gynorthwyo pobl sydd mewn sefyllfa ariannol anodd.
拢13m o ddyled
Mae rhai cynghorau wedi cyhoeddi'n barod pa fath o gynnydd fydd yn wynebu eu trethdalwyr:
- Sir G芒r - 4.48%
- Sir Benfro - 5%
- Caerffili - 3.9%
- Sir Ddinbych - 3.8%
- Sir Fynwy - 4.95%
- Casnewydd - 5%
- Conwy - 2.95%
Mae'r lefelau hyn yn llawer uwch na lefel chwyddiant, sydd ar hyn o bryd yn 0.8%.
Yn Sir Benfro, mae trethdalwyr wedi gweld cynnydd o 27% yn nhreth y cyngor yn ystod y tair blynedd diwethaf - 12.5% yn 2018/19; 9.9% yn 2019/20 a 4.9% yn 2020/21.
Mae Cyngor ar Bopeth wedi rhybuddio y bydd rhai trethdalwyr yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda chynnydd mewn biliau.
"Ers y pandemig, mae incwm teuluoedd wedi gostwng trwy golli swyddi neu oriau," meddai Rob Palmizi o'r elusen.
"Ar y funud, mae'n ymchwil ni yn dangos fod yna 拢13m o ddyled yn ymwneud 芒 threth y cyngor yng Nghymru, a dyma'r ddyled fwyaf ni'n gweld fel asiantaeth.
"Ni'n deall fod 64,000 o gartrefi wedi disgyn tu 么l iddi gyda thaliadau treth y cyngor. Os mae rhywun yn methu un neu ddau daliad maen nhw yn gallu gorfod talu bil cyfan y flwyddyn.
"Mae hynny yn achosi problemau ariannol ond hefyd iechyd meddwl a straen. 'Da ni eisiau gweld y ffordd maen nhw yn cael eu casglu yn llai aggressive.
"'Da ni wedi gweld enghreifftiau bailiffs yn targedu'r bobl fwyaf bregus. Beth 'da ni ddim eisiau gweld yw debt spiral."
Mae Cyngor ar Bopeth yn galw ar awdurdodau lleol i gydweithio gyda threthdalwyr sydd yn teimlo straen ariannol.
'Nifer o eithriadau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr anawsterau sy'n wynebu unigolion a chynghorau lleol.
"Mae system Treth y Cyngor yn darparu nifer o eithriadau a disgownt i gynorthwyo aelwydydd sy'n cael hi'n anodd cwrdd 芒'u taliadau, gan gynnwys cefnogaeth i'r rhai ar incwm isel drwy'r cynllun gostyngiad Treth y Cyngor."