AM flwyddyn... paratoi ar gyfer 2021 o berfformiadau rhithiol

Disgrifiad o'r llun, Rhai o'r digwyddiadau byw sydd wedi eu cynnal ar AM yn 2020

Yn gynnar ym mis Mawrth 2020 fe gafodd platfform digidol AM ei lansio gyda'r uchelgais o arddangos y gorau o'r cyfryngau creadigol yng Nghymru.

Bryd hynny roedd yn anodd dychmygu cymaint o effaith fyddai Covid-19 yn ei gael ar y diwydiant hwnnw. Mae'r ffordd mae cerddorion a chynhyrchwyr creadigol o bob math yn rhannu eu gwaith gyda'u cynulleidfa wedi ei drawsnewid.

Yn dilyn cyhoeddiadau fod yr Eisteddfod Genedlaethol, Glastonbury a gwyliau mawr eraill wedi eu gohirio eto eleni, fe allai 2021 fod yn flwyddyn arall o gigs, dramau a pherfformiadau rhithiol.

Wrth i AM gyflwyno newidiadau a nodweddion newydd, sy'n ymateb i ofynion y cyfnod hwn, fe gafodd Cymru Fyw sgwrs gydag Alun Llwyd, un o reolwyr y platfform.

Pam newid nawr?

"Pan lansiwyd AM doeddem ni ddim yn disgwyl cyrraedd y niferoedd yma mor gyflym felly mae wedi bod yn gam annisgwyl i weddnewid y platfform mor gynnar."

Ar 么l 10 mis cyntaf o heriau a phrofiadau newydd, bellach mae dros 230 o sianelau ar AM, a dros 4,500 darn o gynnwys wedi eu llwytho i'r platfform.

Ffynhonnell y llun, Gwyl Arall

"Mae'r holl newidiadau wedi eu seilio ar adborth gan sianelau a'r defnyddwyr o'r hyn y buasent yn hoffi gweld AM yn ei gynnig, felly mae pwyslais ar gynyddu y gallu i gynnal sawl ffrwd byw ar yr un pryd, gwella'r broses o ddarganfod cynnwys ar AM, cyflwyno proffilau defnyddwyr fydd yn galluogi defnyddwyr i greu 'llyfrgell' bersonol a derbyn hysbysiadau am ddigwyddiadau a chynnwys, a nifer o welliannau eraill."

Yn ystod 2020 roedd AM yn gartref rhithiol i wyliau fel Tafwyl a G诺yl Arall ymhlith digwyddiadau eraill.

"Roedd digwyddiadau diwedd llynedd megis sioe glybiau Bara Caws, sioe Nadolig Caberela, gig Georgia Ruth yn lwyddiannau ysgubol ac fe fydd llawer mwy ohonynt," meddai Alun Llwyd.

Digwyddiadau rhithiol

Mae'r pwyslais ar ddarlledu digwyddiadau rhithiol yn elfen bwysig o'r gwasaneth ar ei newydd wedd.

"Mae ffrydio byw yn un datrysiad i helpu creu incwm i'r rhai sydd yn cynhyrchu 芒'r rhai sydd yn cymeryd rhan.

"Mae hi'n gyfnod anodd am resymau amlwg, ond mae awch ymysg y gynulleidfa am gynnwys diwylliannol a pharodrwydd yn aml i dalu am hynny fel ffordd o barhau i gefnogi'r sector, felly mi rydym ni yn datblygu strwythurau i alluogi mwy o hynny."

Ffynhonnell y llun, AM

Disgrifiad o'r llun, Diwyg newydd y wefan

'Rhaid sicrhau dyfodol y celfyddydau...'

Ers cychwyn y pandemig mae'r her sy'n wynebu'r sectorau creadigol wedi bod yn amlwg. Yn ddiweddar mae unigolion o fewn y diwydiant wedi trafod sut gall cynulleidfaoedd gefnogi'r diwydiannau, drwy dalu er mwyn gwylio perfformiadau ar-lein.

"Yn sicr fe fydd ffrydio byw - i'w fwynhau drwy brynu tocyn neu am ddim - yn cynyddu yn sylweddol eleni a'r dasg wrth edrych ymhellach fydd sicrhau bod hyn yn parhau yn fuddiol i'r sector o safbwynt economi a hygyrchedd wrth i ddigwyddiadau 'ffisegol' ddychwelyd."

Fel rhan o'i waith mae Alun wedi trafod yr heriau sy'n wynebu'r celfyddydau gyda phob math o bobl creadigol. Felly pa mor obeithio mae'n ei deimlo ar gyfer y dyfodol?

"Mae'r angen am gefnogaeth ariannol i'r dyfodol wrth i Covid barhau yn fater o argyfwng. Mae'r angen hefyd am ganllawiau i fedru cynllunio llwybrau allan o hyn hefyd yn fater o frys.

"Ond fel mae hanes Covid hyd yma yn ei ddangos rydym yn delio ag argyfwng iechyd sydd yn greulon ei ganlyniadau a'i effeithiau.

"Mae sicrhau dyfodol y celfyddydau o safbwynt diwylliant, economi, iechyd meddwl a chymdeithas yn hanfodol ac mae hynny yn mynd i olygu parhad o gefnogaeth ariannol gyhoeddus yn ogystal 芒 chydweithio agos rhwng pawb fel mai budd y sector ddiwylliannol - ei chr毛wyr, hyrwyddwyr a chyfranogwyr - sydd yn dod yn dod gyntaf."

Hefyd o ddiddordeb: