Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Jodie Marie: "Creu'r sŵn sy' wir yn fi"
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd Arbennig ´óÏó´«Ã½ Cymru
"Dyma y record dwi 'di bod ishe ei chyhoeddi ers blynydde lawer."
Dyna mae'r gantores Jodie Marie o Sir Benfro yn ei ddweud wrth baratoi i ryddhau albwm newydd.
Mae'n disgrifio y ddisg newydd, The Answer, sydd wedi ei recordio yn ei stiwdio hi ei hun mewn hen gapel yng nghysgod mynyddoedd y Preselau, fel "carreg filltir" yn ei gyrfa.
Newid bywyd
Bu Jodie'n canu ers yn blentyn gan gystadlu mewn eisteddfodau a derbyn hyfforddiant canu clasurol gan yr athrawes gerdd Eilyr Thomas.
Ond daeth tro ar fyd iddi yn 2010 pan oedd hi'n 16 oed. Wrth edrych yn ôl mae'n cyfadde bod yr holl beth wedi bod yn afreal bron. Roedd hi wedi cynhyrchu tâp demo ac roedd hwnnw wedi cyrraedd dwylo perchennog llety gwely a brecwast yn Arberth, lle roedd hi'n byw.
Pan ddaeth ymwelydd i aros dros nos a sôn bod ganddo gysylltiadau â'r diwydiant recordio, fe gafodd gopi o'r tâp i fynd nôl gydag e i Lundain.
O ganlyniad i hynny, o fewn dwy flynedd roedd hi wedi arwyddo cytundeb recordio gydag un o labeli mwyaf y byd, sef Decca / Universal Music ac yn cydweithio gydag enwau mawr fel cyn gitarydd y grŵp Suede, Bernard Butler, a'r canwr/cyfansoddwr Ed Harcourt.
Cyfnod heriol
"Roedd e'n gyfnod cyffrous iawn, a hefyd ychydig bach yn bryderus," meddai hi.
Ar y dechrau roedd rhaid cadw yr holl beth yn gyfrinach ac roedd hi'n dipyn o her iddi i beidio â dweud wrth ei ffrindiau yn Sir Benfro: "Roedd rhaid i fi deithio nôl a mla'n i Lundain yn aml iawn ac yn methu esbonio pam. Felly roedd rhaid i fi neud pob math o esgusodion pam bo' fi methu cwrdd lan â ffrindie gorau."
Fe ymddangosodd ei halbwm gyntaf yn 2012, Mountain Echo, ar label Verve ac fe gafodd ei disgrifio gan adolygydd papur y Guardian fel "melfedaidd a chwerwfelys".
Meddai Jodie: "Rwy' wedi bod yn ddiolchgar iawn am y dyfyniad yna dros y blynydde oherwydd o hynna mla'n fe ddechreuodd pobol gymharu fi â chantorion fel Carole King, oedd yn arwr i fi. Roedd hynny yn anrhydedd enfawr."
Cyn hynny, recordio ei chaneuon yn ei stafell wely yn ei chartre yn Arberth fyddai Jodie, ond yn sydyn roedd hi yn cymysgu gyda cherddorion, cynhyrchwyr ac artistiaid mwya' y byd pop: "Wrth edrych nôl, mae'n anodd credu bod hyn i gyd wedi digwydd i fi."
'Wedi symud ymlaen'
Mae Jodie, sy'n 29 oed, yn cyfadde bod yr albwm newydd wedi bod yn hir ddisgwyliedig ar ôl cyfnod pan oedd hi'n teimlo "ychydig ar goll yn y diwydiant cerddoriaeth". Mae'n teimlo fod y ddisg newydd a'i chaneuon diweddara' yn nodi trobwynt iddi, wrth iddi gydweithio gyda'i phartner Owain Fleetwood Jenkins.
Fe ddechreuodd y ddau weithio ar yr albwm yn hen stiwdio Owain mewn sied wartheg rai blynyddoedd yn ôl. Ond bron i ddwy flynedd yn ôl fe wnaethon nhw brynu un o hen gapeli y Bedyddwyr yng nghysgod y Preselau a'i droi yn stiwdio recordio.
Roedd hwnnw'n "le gwych i recordio", meddai hi, gyda'r offer analog diweddara', ac roedd yna fanteision eraill hefyd: "Mae e ynghanol unlle, a does dim byd i fynd â'ch sylw. Fe allwch chi ganolbwyntio yn llwyr ar y gerddoriaeth."
Profiadau personol sydd wrth wraidd y caneuon ar yr albwm newydd: "Mae gyda fi lot fwy i ddweud nawr, rwy' wedi bod trwy lot fawr o brofiadau ac rwy'n barod ar gyfer yr albwm yma."
Fe ddaeth enwogrwydd yn ifanc i Jodie Marie, ac mae llawer wedi digwydd ers hynny.
Ond, wrth baratoi i gyhoeddi ei record newydd mae'n dweud ei bod hi a'i cherddoriaeth wedi symud ymlaen: "Ry' ni wedi creu sŵn sy' wir yn fi."
Hefyd o ddiddordeb