Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymeradwyo pryniant CPD Wrecsam gan s锚r Hollywood
Mae'r cytundeb i werthu Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Wrecsam i ddau o s锚r Hollywood wedi cael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Cafodd Ryan Reynolds a Rob McElhenney eu datgelu fel y ddau ddyn busnes oedd am brynu'r clwb gan y cefnogwyr ym mis Medi y llynedd.
Fe wnaeth aelodau o ymddiriedolaeth cefnogwyr y clwb bleidleisio o blaid y dd锚l ym mis Tachwedd.
Er i'r ymddiriedolaeth gadarnhau'n flaenorol bod y ddwy ochr wedi cyfnewid cytundebau, roedd angen s锚l bendith yr FCA, ac fe ddaeth hynny ddydd Gwener.
'Ynddi am y tymor hir'
Mewn datganiad, dywedodd yr ymddiriedolaeth: "Bydd y ddwy ochr nawr yn gweithio i gwblhau gwerthiant y cyfranddaliadau yn CPD Wrecsam yr wythnos nesaf.
"Hoffem ddiolch i'r cefnogwyr am eu hamynedd yn ystod y broses yma, a gallwn eich sicrhau y bydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn gwneud datganiad llawn pan fydd y broses ar ben."
Mae'r ddau seren eisoes wedi rhoi arian ychwanegol i'r clwb er mwyn cryfhau'r garfan yn ystod ffenest drosglwyddo Ionawr.
Dywedodd cyn-brif weithredwr Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Lerpwl, Peter Moore, sydd wedi bod yn cynghori'r actorion bod y ddau "ynddi am y tymor hir".