Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sêr Hollywood yn cwblhau pryniant Wrecsam
Daeth cadarnhad yn hwyr nos Fawrth fod dau o enwogion Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds wedi cwblhau eu pryniant o glwb Pêl Droed Wrecsam.
Mae'r ddau wedi buddsoddi £2m yn y clwb sy'n chwarae yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr.
Ymhlith eu blaenoriaethau mae cynlluniau i hyrwyddo pêl-droed merched yn yr ardal.
"Mae'n ddiwrnod arbennig i'r ddau ohonom, i gael dod yn ofalwyr yn hanes hir clwb pêl-droed Wrecsam," meddai Reynolds a McElhenney.
Dywedodd Cledwyn Ashford, sy'n gweithio gydag ieuenctid clwb y Cae Ras, ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru bydd y newyddion yn denu mwy i ymuno â'r clwb.
"Maen nhw wedi mynd mewn at y gymuned yn barod mae nhw wedi rhoi arian at achosion da yn yr ardal.
"I fod yn deg, dwi meddwl bod nhw yma fel mae'r Sais yn dweud " long term" - ac mae hynna yn beth cyffrous ofnadwy yndydi."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Roedd y ddau seren eisoes wedi rhoi arian ychwanegol i'r clwb er mwyn cryfhau'r garfan yn ystod ffenest drosglwyddo Ionawr.
Fe wnaeth aelodau o ymddiriedolaeth cefnogwyr y clwb bleidleisio o blaid y ddêl ym mis Tachwedd.
Ond bu'n rhaid aros am sêl bendith Awdurdod Ymddygiad Ariannol ddydd Gwener ddiwethaf cyn bod modd cwblhau'r cytundeb.