Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cysylltiad band eang yn 'newid byd' i bentref gwledig
Mae trigolion pentref gwledig yn Nyffryn Ceiriog wedi cael eu cysylltu 芒 band eang cyflym o'r diwedd ar 么l blynyddoedd o ymgyrchu.
Dywedodd trigolion Pandy wrth 大象传媒 Cymru y llynedd eu bod yn derbyn cyflymder band eang o 1MB neu is, dim cyswllt 4G a signal ff么n tameidiog.
Roedd y pentref yn poeni eu bod wedi cael eu hanghofio yng nghanol y pandemig am nad oedd ganddyn nhw gysylltiad dibynadwy gyda gweddill y byd.
Ond mae Openreach bellach wedi sicrhau cysylltiad cyflym iawn i lawer o'r ardal, gyda thrigolion yn dweud eu bod yn teimlo fel eu bod wedi cael eu "cysylltu 芒'r 21ain Ganrif" o'r diwedd.
Mae'r pentrefwyr yn amcangyfrif bod tua hanner y cartrefi yn gallu derbyn y band eang cyflym, gyda'r gobaith y bydd y gweddill yn cael eu cysylltu o fewn yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Alison Bendall, oedd wedi bod yn ei chael yn anodd gallu gwneud galwad fideo gyda'i theulu yn Lloegr, ei bod bellach yn derbyn band eang ar gyflymder o 400MB yr eiliad.
"Dydy geiriau ddim yn gallu disgrifio pa mor dda ydy hi i gael ein cysylltu o'r diwedd," meddai.
"O weld wyrion ac wyresau ar-lein, i wylio ffilmiau neu siopa heb orfod poeni am golli cysylltiad - mae'n wych.
"Mae'n newid byd i ni, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo."
Fe lwyddodd y pentrefwyr i gael Openreach i ymestyn y band eang i'w hardal nhw trwy ffurfio cynllun Partneriaeth Ffeibr Cymunedol, gan sicrhau arian grant er mwyn talu am y gwaith.
"Mae hi wedi bod yn frwydr fawr iawn i gael y broadband yma i Pandy," meddai un o'r trigolion, Aeron Davies.
"Mae'n gwneud lot o wahaniaeth i bobl sydd angen gweithio o gartref. Mae o mor gyflym r诺an, a does 'na ddim problem efo'r broadband o gwbl."
Ychwanegodd Connie Dixon o Openreach: "Nawr, fwy nag erioed, mae cysylltiad da yn allweddol i gymunedau ar draws y wlad.
"Roedd Pandy yn ardal gymhleth i'n peirianwyr ond mae'n dangos bod Openreach wedi ymrwymo i ddarparu cysylltiad band eang ffeibr i bob rhan o Gymru."