Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynhadledd i drafod effaith y pandemig ar blant
Bydd effaith Covid-19 ar blant yng Nghymru ymhlith y pynciau trafod mewn Cynhadledd Hawliau Plant sydd i'w chynnal ar-lein ddydd Mercher.
Fe fydd hefyd drafodaeth am brofiadau plant o hiliaeth, eiriolaeth plant yn Gymraeg a sut i sicrhau fod llais y plentyn yn cael ei ganfod.
Yn 么l yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, fydd yn traddodi'r araith allweddol, mae'r anghyfartaleddau oedd yn bodoli cyn y pandemig wedi eu hatgyfnerthu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda phlant sy'n byw mewn tlodi, plant o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phlant anabl, yn profi mwy o anhawster yn cael mynediad at eu hawliau na'u cyfoedion.
Yn ystod y gynhadledd bydd yr Athro Holland yn rhannu casgliadau dau arolwg ar safbwyntiau plant a phobl ifanc ar adegau allweddol yn ystod y pandemig, ac yn asesu ymateb y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd yr Athro Holland: "Mae plant wedi wynebu heriau enfawr yn sgil y pandemig byd-eang. Bydd gan gyfranogwyr y gynhadledd heddiw r么l bwysig i chwarae wrth gefnogi plant dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau bod ganddynt gyfle cyfartal i oresgyn eu profiadau a gwireddu eu potensial llawn.
"Rydw i'n hynod o falch o gael y cyfle i rannu syniadau gyda nhw."
'Hollbwysig trafod'
Dyma gynhadledd gyntaf Panel Astudiaethau Addysg, Plant a Gofal Ieuenctid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a drefnir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda Grant Cydweithredol gan y Coleg Cymraeg.
Mae'r digwyddiad wedi ei dargedu at fyfyrwyr Prifysgol, dysgwyr mewn colegau addysg bellach a gweithwyr yn y maes.
Mae Dr Si芒n Lloyd Williams o Brifysgol Aberystwyth yn gadeirydd Panel Astudiaethau Addysg, Plant a Gofal Ieuenctid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ynghyd 芒 chydweithwyr bydd Dr Williams yn cynnal sesiwn ar sut i ganfod llais y plentyn yn ystod Covid-19 ac yn ystyried y rhwystrau a'r atebion.
Dywedodd Dr Williams: "Mae'n hollbwysig trafod, deall a chanfod llais plant Cymru cyn, ac yn ystod cyfnod Covid, ac mae'r gynhadledd yma yn ein galluogi i ystyried a thrafod hynny yn y Gymraeg ac mewn cyd-destun Cymreig."
Bydd Nia Gwynfor o National Youth Advocacy Service yn cynnal sesiwn ar eiriolaeth plant yn y Gymraeg. Mae Nia wedi bod yn gweithio ar Brosiect Undod ar ran NYAS Cymru, prosiect sy'n cynnig cefnogaeth dwys ac holistaidd ar gyfer merched ifanc beichiog a mamau ifanc sydd 芒 phrofiad o fod mewn gofal.
Dywedodd: "Rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon pa mor werthfawr yw eiriolaeth a'r gefnogaeth hon a'r budd i'r bobl ifanc y mae NYAS yn eu cefnogi.
"Mae llwyddiant y prosiect yn ganlyniad i gyfranogiad y menywod ifanc rydyn ni'n eu cefnogi a dwi'n edrych ymlaen gallu rhannu hynny gyda phawb yn y gynhadledd bwysig hon."