Trigolion eisiau cadw hen gapel yn adnodd i'r gymuned

  • Awdur, Nia Cerys
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae 'na alw am gadw Capel Mawr sydd ar werth ym Mhorthaethwy yn adnodd i'r gymuned ac atal datblygwyr rhag ei droi yn fflatiau.

Mae aelodaeth y capel wedi lleihau dros y blynyddoedd a phroblemau strwythurol yn golygu bod angen gwario llawer o arian ar yr adeilad.

Ar 么l pleidlais bron yn unfrydol, mae'r capel wedi ei roi ar y farchnad.

Ond mae gr诺p o ymgyrchwyr yn poeni am yr hyn maen nhw'n galw'n "or-ddatblygu" yn y dref ac y gallai'r capel gael ei droi yn fflatiau moethus.

Wedi'i adeiladu yn wreiddiol yn 1838, a'i adnewyddu ar ddechrau'r ganrif ddiwetha', mae Capel Mawr yn cyfiawnhau ei enw - yn glamp o gapel yng nghanol y dre'.

Mae wedi ei restru gyda Cadw ond mae pydredd sych wedi bod yn broblem yno ers y 1970au a'r arian ddim wedi bod ar gael i'w atgyweirio.

Disgrifiad o'r llun, Tu mewn i Gapel Mawr yn 2008

Wrth i nifer yr aelodau ostwng, roedd y gwasanaethau wedi eu symud i'r Addoldy dros y ffordd ers rhai blynyddoedd cyn y pandemig - a r诺an mae'r capel a'r t欧 drws nesa' wedi eu rhoi ar werth.

Gyda nifer o fflatiau newydd wedi eu codi yn y dre' yn ddiweddar - mae rhai yn poeni y gallai Capel Mawr fynd i'r un cyfeiriad ac mae gr诺p wedi cychwyn deiseb yn galw am atal gwerthu'r adeilad i ddatblygwyr a'i gadw yn hytrach fel adnodd cymunedol.

Tasg 'fawr ond nid amhosib'

Un o'r rhai tu cefn i'r ddeiseb ydy Lowri Hedd Vaughan a ddywedodd: "'Sa fo'n gallu mynd i'r dwylo anghywir.

"Mae'r ochr yna o Borthaethwy 'di cael ei foneddigeiddio eitha' lot dros y blynyddoedd diweddar. A hefyd 'da ni'n gweld cyfle i ddatblygu canolfan gymunedol.

"'Swn i'n licio gweld lot mwy o gefnogaeth i unigolion sy' dan anfantais, i bobl sy'n unig, i rieni ifanc i'r henoed - creu gofod eitha' penagored.

"Ma' rhai o'r syniadau cychwynnol sydd ganddo ni, rhywfaint o ysbrydoliaeth o'r hyn fasa'n gallu bod, yn dod o lefydd fel Neuadd Ogwen ym Methesda a Cell B ym Mlaenau Ffestiniog - y cyfleoedd maen nhw'n rhoi i bobl o bob oed a bod y celfyddydau'n weddol flaenllaw yno.

"'Da ni'n sylweddoli bod angen dipyn o arian ond 'da ni'n ffodus o ran aelodaeth y gr诺p. Mae ganddon ni unigolion sy'n brofiadol iawn, wedi ceisio a llwyddo i ennill grantiau ar gyfer mudiadau.

"Mae ganddon ni ryw chwe wythnos i drio mireinio'r cynlluniau. Mae'n dasg fawr, ond dim yn amhosib o gwbl."

Tra bod swyddogion Capel Mawr yn cydymdeimlo gyda safbwynt yr ymgyrchwyr, maen nhw'n dweud eu bod mewn sefyllfa anodd rhwng popeth.

Meddai Ella Owens, un o Ysgrifenyddion y Capel: "Mi oedd hi'n bleidlais bron yn unfrydol dros werthu'r capel ond nid ar chwarae bach gwnaethon ni hyn. Mae'n loes calon i ni orfod gwneud hyn.

"Dymuniad yr ymddiriedolwyr a'r aelodau fyddai i'r capel a'r t欧 gael ei werthu am bris rhesymol i'r gymuned leol a hwythau wedyn yn medru'i ddatblygu o, ond mae'n ddyddiau anodd.

"Mae'n disgwyliadau ni yn y b么n yr un rhai 芒'r rhai sy'n trefnu'r petisiwn, dwi'n meddwl. Yn anffodus ar un ystyr, mae'r Borth yn le poblogaidd iawn, teuluoedd yn dod yma efo tai haf ac ati.

"Yn sicr mae 'na or-ddatblygu, mae 'di bod yn rhemp yma'n ddiweddar.

"Ond wir, mae'r peth allan o'n dwylo ni ar hyn o bryd. Oherwydd mai elusen ydy Eglwys Bresbyteraidd Cymru, mae'n rhaid i ni a Morgan Evans weithredu o fewn cytundebau'r elusen.

"Fedrwn ni ddim gwneud fel 'da ni eisiau. Ond dydw i ddim chwaith eisiau gweld Capel Mawr yn mynd i gyflwr pan mae gynnoch chi dyfiant yn tyfu allan drwy'r to a phethau felly.

"Fasa'n well gen i weld o'n cael ei werthu a rhywun yn medru gwneud rhywbeth go lew allan ohono fo."

Mewn datganiad, fe ychwanegodd llefarydd ar ran Eglwys Bresbyteraidd Cymru eu bod yn "deall teimladau cymysg y gymuned" yngl欧n 芒 gwerthiant Capel Mawr a'u bod yn awyddus i "gydweithio ag unrhyw rai sydd 芒 diddordeb ymarferol yn nyfodol y safle". Ond fe bwysleision nhw fod yn "rhaid sicrhau bod unrhyw gynigion yn anrhydeddu buddsoddiad cenedlaethau'r gorffennol" yn ogystal 芒'r gofynion elusennol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys M么n na fyddai'n briodol iddyn nhw wneud sylw ar y mater gan nadd oedd yr eiddo o fewn perchnogaeth y cyngor.