Ymgyrchwyr yn galw am achub y 'Versailles Cymreig'
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol hen blasty gwag sy'n cael ei alw'n y Versailles Cymreig mewn perygl os na fydd mwy'n cael ei wneud i'w achub, medd ymgyrchwyr.
Codwyd Neuadd Cinmel Hall, ger Abergele yn Sir Conwy, yn y 1870au, a'r gred yw taw dyma gartref gwledig mwyaf Cymru.
Dywed Cyfeillion Neuadd Cinmel bod angen camau gorfodaeth i atal yr adeilad rhag adfeilio.
Ond does dim angen y fath gamau, medd Cyngor Conwy, gan fod y perchennog ers 10 mlynedd, cwmni Acer Properties Ltd BVI, wedi gwneud addewid i wario ar waith atgyweirio.
'Mae'n drist'
Mae'r adeilad rhestredig Gradd I, sy'n ymdebygu i chateau Ffrengig, yn wag ers troad y ganrif.
"Mae unrhyw adeilad sy'n cael ei adael, i bob pwrpas yn wag am 20 mlynedd heb unrhyw un oddi mewn, heb unrhyw wres, yn rhwym o ddirywio," medd Tim Vincent, o Gyfeillion Neuadd Cinmel.
"Bu achosion o fandaliaeth. Mae rhywfaint o blwm wedi'i dynnu o'r to, a rhywfaint o'r trysorau wedi'u cymryd o'r tu mewn. Mae'n drist iawn."
Y teulu Hughes, a ddaeth yn gefnog trwy gloddio copr yn Amlwch, wnaeth godi'r neuadd a'r ardd a gafodd ei chreu gan y sawl a ddyluniodd Regent's Park, Llundain. Rhyw ddwy genhedlaeth fu'n byw yno, gan ddefnyddio'r t欧 yn unig
Cafodd yr adeilad ei osod ar brydles wedi hynny a'i ddefnyddio i sawl pwrpas drwy ran helaeth o'r 20fed Ganrif. Roedd yn gartref i Ysgol Genethod Clarendon am oddeutu 30 mlynedd, cyn i d芒n ddifrodi rhannau o'r neuadd yn 1975.
Camodd tad Mr Vincent, Eddie i'r adwy yn y 1980au, gan roi 拢2m o'i arian ei hun at adfer y safle gyda chymorth arian cyhoeddus.
"Roedd yna lawer o wirfoddolwyr o'r ardal leol wnaeth helpu gyda'r gwaith adfer," meddai.
"Cafodd hefyd tua 拢500,000 gan Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru, rhagflaenydd CADW, felly mae Cymru wedi rhoi cryn fuddsoddiad i'r adeilad rhyfeddol yma."
Mae Cyfeillion Neuadd Cinmel yn dadlau bod angen cynllun manwl r诺an i atal yr adeilad rhag dirywiad parhaol.
Maen nhw'n amcangyfrif bod angen tua 拢1m dim ond i ddiogelu'r adeilad, a hyd at 拢30m i'w adfer fel bod modd ei ddefnyddio i dalu costau cynnal a chadw.
Mae'n debygol, maen nhw'n dweud, y bydd angen rhywfaint o arian cyhoeddus fel rhan o bartneriaeth yn cynnwys y perchnogion presennol, y cyngor a llywodraethau i sicrhau dyfodol y neuadd.
Ni fu'n bosib cysylltu ag Acer Properties, sydd wedi cofrestru yn Ynysoedd y Wyryf, ond mae Cyngor Conwy'n gorfodi rheolau gwarchod adeiladau rhestredig.
Dywedodd y cyngor: "Rydym mewn trafodaethau rheolaidd gyda'r perchnogion ac maen nhw yn y broses o drefnu gwaith atgyweirio.
"Ar y foment, mae'r perchnogion yn cymryd camau positif... ac er bod y mater dan adolygiad nid ydym yn ystyried bod camau gorfodaeth yn angenrheidiol ar hyn o bryd."
Mae cyflwr Neuadd Cinmel yn destun pryder i sawl arbenigwr cadwriaethol sydd hefyd yn dadlau bod angen gweithredu i achub y safle, gan gynnwys Peter Hare, fu'n rhaid o brosiect adfer Castell Windsor wedi t芒n 1994.
Dywedodd fod Neuadd Cinmel ymhlith y 10 adeilad Fictoraidd sydd fwyaf dan fygythiad drwy'r DU.
"Mae cost ei adfer yn codi'n gyson," meddai. "Po hiraf iddo gael ei adael, po fwyaf mae'r adeiladwaith yn cael ei ddinistrio a lleia'n byd sy'n weddill. Mae'n ofnadwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2021