Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ffyrdd Cymru 60% yn brysurach na'r cyfnod clo cyntaf
Mae pob rhan o Gymru wedi gweld cynnydd yn nifer y cerbydau ar y ffyrdd yn yr wythnosau diwethaf o'i gymharu 芒'r cyfnod clo cyntaf yng ngwanwyn 2020.
Mae ffigyrau Traffig Cymru a Llywodraeth Cymru yn datgelu bod swm y traffig wedi bron dyblu mewn rhai ardaloedd.
Dros y chwe wythnos ddiwethaf mae cynnydd o 62% wedi bod yn nifer y cerbydau ar ffyrdd Cymru o'i gymharu 芒 chwe wythnos gyntaf y cyfnod clo cyntaf.
Mae hynny er bod y cyfyngiadau coronafeirws yn debyg iawn, gyda phobl yn cael eu cynghori i deithio os ydy hynny'n angenrheidiol yn unig.
Beth mae'r ffigyrau'n ei ddangos?
Casnewydd welodd y cynnydd lleiaf yn swm y traffig, gydag ychydig dros 30% yn fwy o gerbydau ar yr M4 yno.
Ond fe wnaeth gweddill de Cymru weld cynnydd llawer mwy.
- Casnewydd: 30%
- Abertawe: 72%
- Magwyr, Sir Fynwy: 75%
- Caerdydd: 81%
O edrych ar y ffigyrau ar gyfer y gogledd a'r canolbarth, mae nifer y cerbydau ar y ffyrdd wedi bron dyblu yng Nghonwy, ac mae cynnydd mawr i'w weld ym mhob ardal.
- Beulah, Powys: 58%
- Wrecsam: 64%
- Aberystwyth: 70%
- Dolgellau: 79%
- Conwy: 94%
Daw'r cynnydd wedi i'r ffyrdd fod yn dawel iawn dros y Nadolig - dyma oedd y cyfnod tawelaf trwy gydol 2020.
Mae swm y traffig ar hyn o bryd yn debyg i'r lefelau a welwyd ym mis Mehefin 2020 pan oedd y cyfyngiadau llymaf wedi'u llacio.
Dywedodd John Parkinson, pennaeth seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, ei fod yn cydnabod fod pobl yn blino ar gyfnodau clo, ond ei fod yn credu bod awydd y cyhoedd i gadw at y rheolau yn parhau'n "hynod o uchel".
Ond ychwanegodd, wrth i gyfraddau brechu gynyddu, bod perygl y gallai pobl gredu "mae'n rhaid ei bod hi'n ddiogel r诺an".
"Rwy'n dychmygu y gallai hynny gael effaith negyddol ar gydymffurfio 芒'r rheolau," meddai.
Beth am drafnidiaeth gyhoeddus?
Un gwahaniaeth mawr sy'n cael ei weld ledled Cymru ydy'r gostyngiad mawr yn nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gyda gostyngiad o dros 60% mewn nifer o ardaloedd.
Ond mae'n bosib bod yr awydd i osgoi trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn rhannol gyfrifol am y cynnydd yn nifer y cerbydau ar y ffyrdd.
Dywedodd Stuart Cole, athro trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru, ei fod yn credu y byddai'r negeseuon am osgoi trafnidiaeth gyhoeddus yn cael effaith ar niferoedd teithwyr am flynyddoedd i ddod.
"Rydych chi'n gwrando arnyn nhw [y llywodraeth] pan maen nhw'n dweud bod yn rhaid i chi aros gartref, peidio teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus - mae trafnidiaeth gyhoeddus yn berygl," meddai.
"Bydd hynny ym meddyliau pobl am beth amser."