Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Penalun: Pryderon am les ceiswyr lloches mewn gwersyll
Chafodd contractwyr na rhanddeiliaid lleol ddim digon o amser i baratoi ar gyfer dyfodiad cannoedd o geiswyr lloches i wersyll hyfforddi Penalun yn Sir Benfro.
Dyna gasgliad Prif Arolygydd Annibynnol Ffiniau a Mewnfudo (ICIBI) ac Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi.
Daw'r canfyddiadau beirniadol wedi i arolygwyr fod yn ymweld 芒 Phenalun ac un safle arall yng Nghaint am ddeuddydd fis diwethaf.
Yn ystod yr ymweliadau canfu arolygwyr bod contractwyr wedi cael llai na phythefnos i baratoi pob safle a hynny er gwaethaf heriau ymarferol eraill yn sgil y pandemig.
Nodwyd hefyd na ymgynghorwyd 芒 phobl leol a oedd angen sefydlu gwasanaethau fel gofal iechyd cyn i'r Swyddfa Gartref fwrw ymlaen 芒'u penderfyniad ac nad oedd y Swyddfa Gartref wedi amgyffred effaith eu penderfyniad ar lefel lleol.
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Ysgrifennydd Cartref y DU, Priti Patel, i ystyried ei dyfodol yn sgil y canfyddiadau.
Dywed y Swyddfa Gartref eu bod wedi cyfarwyddo darparwyr gwasanaeth i wneud gwelliannau ar y safle.
Fe ddechreuodd gwersyll hyfforddi Penalun, ger Dinbych-y pysgod letya 250 o geiswyr lloches ym mis Medi gan gynnwys dynion o Irac, Iran a Syria.
Mae nifer o brotestiadau wedi'u yn cynnal yn erbyn penderfyniad y Swyddfa Gartref - gan gynnwys rhai gan grwpiau adain dde eithafol a phobl leol sy'n bryderus.
Mae yna brotestiadau eraill sydd wedi cefnogi y ceiswyr lloches a rhai gan y ceiswyr lloches eu hunain oedd yn anhapus gyda'r amodau yn y gwersyll.
Mae adroddiad arolygwyr ICIBI ac Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi yn feirniadol o lendid a maint y gwersyll ac maen nhw'n mynegi pryderon hefyd am les y ceiswyr lloches oedd yn byw ym Mhenalun.
Nodwyd bod y rhan fwyaf o breswylwyr Penalun wedi dweud ar ryw adeg eu bod yn teimlo'n isel a dywedodd traean eu bod yn cael problemau iechyd meddwl.
Roedd y rhai oedd yn lletya yno hefyd wedi dweud eu "bod yn teimlo wedi'u caethiwo" mewn amodau difrifol ond eu bod yn teimlo petaent yn gadael y byddan nhw'n peryglu eu hunig ffynhonnell o gefnogaeth a'u hachos dros gael lloches".
Nododd yr arolygwyr fod yna "ddiffyg parch" cyffredinol yn bodoli wrth i brotestwyr nad oedd am i'r ceiswyr lloches fod yno weiddi ar bobl leol ac roedd cyfathrebu gwael rhwng y Swyddfa Gartref a phobl leol yn elfen arall.
Nodwyd bod y rhan fwyaf o'r rhai oedd yn lletya ym Mhenalun wedi bod yno ers misoedd ac nad oedden nhw'n gwybod am ba hyd oedd eu harhosiad.
Roedd hynny, meddai'r adroddiad, yn achosi cryn ofid gan iddyn nhw gael gwybod ar y dechrau na fyddan nhw yno am fwy na rhai wythnosau.
Nodwyd hefyd bod nifer o'r preswylwyr yn disgwyl am gyfweliad cais am loches ond nad oedd dyddiadau ar gyfer y cyfweliadau - roedd hyn, meddai, yn enghraifft wael arall o ddiffyg cyfathrebu y Swyddfa Gartref.
Yn ogystal adroddwyd nad oedd rheolwyr yn cysylltu'n gyson 芒'r preswylwyr er bod staff diogelwch a gwasanaethau ar y safle yn gyfeillgar.
Mae cynlluniau eraill yr ICIBI ar gyfer lletya ceiswyr lloches yn dal i gael eu trafod wrth i arolygwyr barhau i gasglu a dadansoddi tystiolaeth lafar gan bawb sy'n gysylltiedig 芒'r gwersyll.
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi dweud yr adroddiad yn dangos "diystyrwch y Swyddfa Gartref tuag at iechyd ac urddas dynol".
Mae Ms Saville Roberts wedi galw am y gwersyll i gau ar unwaith.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Fel y mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi nodi, mae ein system loches wedi torri. Dyna pam y byddwn yn cyflwyno cynigion sy'n deg ond yn gadarn.
"Yn ystod yr amseroedd digynsail hyn rydym wedi cyflawni ein dyletswydd statudol i ddarparu llety addas a thri phryd y dydd i geiswyr lloches, a fyddai fel arall yn amddifad, i gyd yn cael eu talu gan drethdalwr Prydain.
"Rydym yn disgwyl y safonau uchaf posibl gan ein darparwyr gwasanaeth ac wedi eu cyfarwyddo i wneud gwelliannau ar y safle."