Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cerrig milltir cael pleidlais i bobl ifanc yng Nghymru
Am y tro cyntaf yn hanes Cymru bydd 70,000 o bobl ifanc 16 ac 17 oed yn penderfynu pwy fydd yn cael ei ethol i'r Senedd wedi i oedran pleidleisio gael ei ostwng.
Hefyd bydd 33,000 o wladolion tramor yn cael pleidleisio yn etholiad y Senedd am y tro cyntaf.
Fe wnaeth pobl 16 ac 17 oed bleidleisio yn refferendwm annibyniaeth Yr Alban yn 2014 ac yna yn etholiad Holyrood yn 2016.
Ond does dim hawl gan bobl ifanc o dan 18 oed ddewis pwy sy'n cael eu cynrychioli fel Aelod Seneddol yn San Steffan.
Y cefndir
Cafodd y trafodaethau ar bwy sy'n cael pleidleisio, yr enw ar aelodau etholedig a lle mae nhw'n eistedd eu cynnal yn Nhachwedd 2019.
Yn ogystal 芒 rhoi i bobl ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor yr hawl i bleidleisio, roedd y bil yn cynnwys deddfwriaeth i newid enw'r sefydliad i Senedd Cymru.
Roedd yn rhaid cael s锚l bendith dwy ran o dair o'r aelodau ac roedd 41 o'r 60 o Aelodau'r Cynulliad o blaid - roedd y newid yn golygu bod eu teitlau yn newid i Aelodau o'r Senedd (ASau).
Roedd Llafur a Phlaid Cymru o blaid y newid ond roedd y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn gwrthwynebu.
Fe ddywedodd Llywydd y Senedd (sef y person sy'n cadeirio cyfarfodydd Senedd Cymru) ar y pryd, Elin Jones, y byddai'r newid yn "annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd".
"Mae'r bil hwn, yn fy nhyb i, yn creu Senedd mwy cynhwysol, amrywiol ac effeithiol," ychwanegodd.
Ond doedd rhoi pleidlais i wladolion tramor wedi diwygiadau Llywodraeth Cymru yn gynharach yn y broses ddim wrth fodd y Ceidwadwyr, er bod rhai o blaid rhoi pleidlais i bobl ifanc 16 oed.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, ei fod yn "gynllun bwriadol" gan "sefydliad gwleidyddol adain chwith".
Effaith ar nifer y pleidleiswyr?
Fe wnaeth oddeutu 1,020,000 miliwn o bobl bleidleisio yn yr etholiad diwethaf yn 2016.
Yn 么l y roedd 2.25 miliwn o oedolion yn gymwys i bleidleisio ar y pryd ac felly nodwyd bod canran y rhai a bleidleisiodd yn 45.2%.
Bydd cynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor yn ychwanegu 103,000 at y gofrestr bleidleisio.
Ond bydd yn rhaid i'r sawl sydd am bleidleisio gofrestru i wneud hynny cyn 19 Ebrill.
Mae'r ddeddfwriaeth wedi'i hymestyn i sicrhau bod pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio hefyd mewn etholiadau lleol yng Nghymru - etholiadau a fydd yn cael eu cynnal ym Mai 2022.
Diddordeb pobl ifanc?
Roedd gwaith ymchwil a gafodd ei gyhoeddi cyn y cyfnod clo cyntaf ym Mawrth 2020 yn awgrymu bod gwybodaeth pobl ifanc yng Nghymru am wleidyddiaeth yn "gyfyngedig iawn".
Fe wnaeth dadansoddwyr o gwmni ymchwil Beaufort siarad 芒 148 o bobl gan gynnwys rhai rhwng 16 ac 17 oed a gwladolion tramor.
Roedd y gwaith ymchwil yn dangos:
- Diffyg gwybodaeth am bwy oedd Prif Weinidog Cymru
- Diffyg gwybodaeth am waith Llywodraeth Cymru
Ond fe wnaeth yr un ymchwilwyr ganfod bod 72% o bobl ifanc 16-17oed yn dymuno pleidleisio - hynny i gymharu 芒 12% yn erbyn.
Ond ers hynny mae'r pandemig wedi gwneud pobl yn fwy ymwybodol bod yna wahanol reolau mewn rhannau gwahanol o'r DU ac mae ymchwil yn dangos bod nifer fawr o bobl yng Nghymru wedi bod yn chwilio ar Google pa reolau sy'n gymwys i genhedloedd gwahanol.
Ym mis Chwefror, fe wnaeth arolwg barn ygan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol ac YouGov ddangos bod 69% o'r rhai rhwng16 a 24-oed a holwyd yn credu bod etholiadau'r Senedd yn bwysig - canran uwch nag unrhyw gr诺p arall heblaw am y rhai dros 65 oed.
Mae llythyr sydd wedi'i lofnodi gan y Comisiynydd Plant, Cyngor Hil Cymru, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Urdd Gobaith Cymru ac Youth Cymru wedi galw ar bleidiau i:
- gyhoeddi maniffestos sy'n hawdd eu deall, wedi eu targedu at bobl ifanc;
- ystyried pleidleiswyr newydd wrth greu polis茂au;
- gymryd rhan mewn hystingau a digwyddiadau eraill ar gyfer pleidleiswyr sydd yn cael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf.
Dywedodd Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru: "Mae gan hyn y potensial i adeiladu cenhedlaeth newydd o ddinasyddion gweithredol.
"Rhaid i bleidiau beidio 芒 cholli'r cyfle hwn, ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth wneud etholiadau mis Mai yn llwyddiant democrataidd."
Llwyddiant mewn mannau eraill?
Yr hyn sy'n fwyaf trawiadol yw bod pobl ifanc 16 ac 17 oed wedi pleidleisio yn wahanol i grwpiau oedran eraill yn refferendwm annibyniaeth Yr Alban yn 2014.
Dangosodd arolwg, a gafodd ei gomisiynu gan y Ceidwadwr - yr Arglwydd Ashcroft, bod 71% o'r gr诺p oedran wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth ac mai 29% a bleidleisiodd yn erbyn.
Roedd 55% o Albanwyr wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth a 45% yn erbyn.
Pleidleisiodd 54% o'r rhai rhwng 18-24 o blaid, 72% o'r rhai rhwng 25-34, 85% o'r rhai rhwng a 92% o'r rhai dros 55 oed.
Ynys Manaw oedd y lle cyntaf yn Ewrop i ganiat谩u pobl oed 16 i bleidleisio a hynny yn 2006 - fe ddigwyddodd hynny yn Guernsey yn 2007 ac yn Awstria yn 2011.
Yna Yr Alban yn 2014 gydag 100,000 yn cofrestru i bleidleisio yn y refferendwm annibyniaeth.
Dywed y Comisiwn Etholiadol bod y nifer wedi gostwng i 80,000 pan gafodd pobl ifanc 16-17 oed yr hawl i bleidleisio yn etholiad Senedd Yr Alban yn 2016.
Dyw pobl ifanc 16 ac 17 oed ddim wedi cael yr hawl hyd yma i bleidleisio mewn etholiad yn Lloegr.