Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynllun cymorth rhent yn 'chwerthinllyd' medd tenantiaid
Mae cronfa 拢8m gafodd ei sefydlu er mwyn cynnig benthyciadau i denantiaid sydd mewn dyled gyda'u rhent, yn "chwerthinllyd" yn 么l undeb tenantiaid.
Dim ond 25 o bobl gafodd eu hystyried yn gymwys am gymorth ym mhedwar mis cyntaf cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth (BAT) Llywodraeth Cymru.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn honni mai "anfedrusrwydd" sydd ar fai.
Mae Llafur Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo cyflwyno grantiau, tra bod Plaid Cymru yn gwrthwynebu BAT.
Cymorth yn y cyfnod clo
Cafodd y cynllun ei lansio ym mis Hydref mewn ymateb i'r ffaith bod miloedd o bobl yn colli eu gwaith, yn cael eu rhoi ar ffyrlo neu'n gorfod hunan-ynysu oherwydd Covid-19.
Mae BAT yn cynnig benthyciadau ar raddfa 1% i denantiaid preifat sydd ag 么l-ddyledion ers y cyfnod clo cyntaf, gyda'r arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r landlord.
Dengys ffigyrau a gasglwyd gan yr undeb tenantiaid Acorn Caerdydd, a welwyd gan y 大象传媒, bod cyfanswm o 拢47,054 mewn benthyciadau wedi eu rhoi i 25 o denantiaid rhwng Hydref a Ionawr, 拢1,961 i bob ymgeisydd ar gyfartaledd.
Roedd y Resolution Foundation - mudiad annibynnol sy'n ceisio codi safonau byw pobl ar gyflogau isel neu ganolig - yn amcangyfrif bod tua 15,000 o denantiaid preifat yng Nghymru ar ei h么l hi gyda'u rhent.
Yn 么l Acorn Caerdydd, grantiau sydd eu hangen ar denantiaid, nid benthyciadau, neu bydd Cymru'n wynebu "ton enfawr o ddigartrefedd" gan ddechrau ym mis Mehefin pan ddaw'r gwaharddiad ar droi allan i ben.
"Pam nad yw llywodraeth Cymru just yn helpu pobl 'efo'u h么l-ddyledion rhent i dalu'r ddyled a sefydlogi eu hunain ar gyfer y byd wedi'r pandemig?" meddai ysgrifennydd Acorn Caerdydd, Nicki Kindersley.
Roedd yr undeb wedi gweld "ton ar 么l ton o denantiaid yn cael eu gwthio i mewn i argyfwng ariannol ac yn cael trafferth gyda sefyllfaoedd ofnadwy o safbwynt gwaith - amgylchiadau lle'r oedd y cynllun i fod i roi cymorth iddynt," meddai.
Gwrthodwyd 55% o geisiadau am nad oeddynt yn gymwys.
Roedd Charlie Miles o Gaerdydd wedi ystyried gwneud cais am BAT pan ddaeth ei gytundeb gwaith i ben y y llynedd, ond cafodd ei wrthod yn syth am ei fod yn derbyn Credyd Cynhwysol.
Ond doedd hwnnw ond yn ddigon i dalu tua hanner ei rent, meddai, felly bu'n rhaid iddo ddefnyddio'i arbedion er mwyn peidio mynd i 么l-ddyled.
"Mae o braidd yn wirion," meddai Mr Miles.
"Mae'n golygu bod rhai o'r bobl mwyaf bregus, y bobl sydd wir ei angen, yn cael eu gwahardd yn fwriadol."
Hanes o broblemau ariannol, credyd, neu waith oedd y rheswm y cafodd 37% o ymgeiswyr eu gwrthod gan BAT hyd at ddechrau Chwefror.
Yn 么l Nicki Kindersley, roedd y prawf i weld a allai ymgeiswyr fforddio i gymryd benthyciad yn "digalonni" pobl a oedd wedi bod yn cael trafferth canfod gwaith sefydlog oherwydd y pandemig.
"Rydym yn gweld pa mor chwerthinllyd ydy'r cynllun hwn, ac roeddem yn gwybod nad oedd o'n mynd i weithio neu am roi tenantiaid mewn mwy o ddyled yn ystod pandemig byd-eang," meddai.
"Os nad yw Llywodraeth Cymru'n gallu gweld ffordd o helpu pobl mewn trafferthion heb eu gorfodi i mewn i fwy o ddyled, yna dwi wir ddim yn deall dros bwy maen nhw'n gweithio."
Mae opsiynau eraill ar gael i bobl sy'n cael trafferth talu'r rhent.
I helpu tenantiaid sydd eisoes yn derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dal tai, mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo 拢4.1m ar ben y Taliadau Tai yn 么l Disgresiwn, cynllun grant Llywodraeth y DU sy'n cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol.
Mae gweinidogion Cymreig hefyd wedi gwario 拢300,000 ar linell gymorth dan reolaeth Cyngor Ar Bopeth.
Barn y pleidiau
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn honni bod BAT yn enghraifft arall o "gamreoli ac anfedrusrwydd".
"Nid yn unig y mae nifer helaeth o bobl fregus wedi cael eu gadael i lawr yn arw, ond mae miloedd o deuluoedd bellach mewn perygl o gael eu gwneud yn ddigartref," meddai llefarydd ar eu rhan.
"Mae angen i Lafur Cymru afael ynddi a sortio'r cynllun methedig hwn allan."
Dywed Llafur Cymru mai degawd o bolis茂au llymder gan Lywodraeth y DU oedd y rheswm mwyaf pam fod pobl yn mynd i 么l-ddyled.
"Gwyddom bod unigolion a theuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan coronafeirws yn cael eu hunain mewn 么l-ddyledion," meddai llefarydd Llafur Cymru.
"Byddai llywodraeth nesaf Llafur Cymru yn adeiladu ar y gefnogaeth sydd eisoes ar gael trwy gyflwyno cynllun grant."
Dywedodd Plaid Cymru fod cynnig benthyciad i bobl oedd ag 么l-ddyledion rhent "byth am fod yn ddatrysiad".
Dywedodd llefarydd y "byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cynnig mwy o sefydlogrwydd i denantiaid trwy gyflwyno Mesur Rhenti Teg i ddarparu cytundebau tenantiaeth am gyfnodau amhenodol, a rhoi diwedd ar droi allan di-fai".
Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, bod angen adolygu'r cynllun.
"Rydym yn cynnig gwneud cronfa ariannol benodol a chyfyngedig ar gael fel y gallem ddileu dyledion sydd eisoes wedi cael eu gwerthu ymlaen i asiantaethau casglu dyledion, ar gyfer hyd at 200,000 o'r bobl tlotaf," meddai.