Covid: Ymchwiliad cyhoeddus i ddechrau yng ngwanwyn 2022

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Dywed Boris Johnson y bydd yn ymgynghori gyda llywodraethau'r gwledydd datganoledig

Fe fydd ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yn cael ei gynnal yng ngwanwyn 2022 i'r pandemig coronafeirws a'r modd yr aed ati i ymdopi 芒'r haint.

Gwnaed y cyhoeddiad gan Boris Johnson yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Mercher.

Bydd yr ymchwiliad yn un led led gwledydd y Deyrnas Unedig a dywedodd Mr Johnson fod ei lywodraeth "wedi ymroddi yn llwyr i ddysgu gwersi o ran bob cam o'r argyfwng".

Dywedodd y byddai'n ymgynghori gyda llywodraethau'r gwledydd datganoledig cyn mynd ati i benderfynu beth fydd union gylch gorchwyl yr ymchwiliad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r prif weinidog wedi cael trafodaethau cychwynnol yngl欧n ag ymchwiliad i'r pandemig gyda phrif weinidogion Yr Alban a Gogledd Iwerddon ynghyd 芒 Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn [Michael Gove].

"Rydym yn cefnogi ymchwiliad annibynnol ar y cyd rhwng y pedair gwlad i'r pandemig."

Yn ei ddatganiad, dywedodd Mr Johnson y byddai'r ymchwiliad yn "gosod gweithredoedd a wladwriaeth o dan y meicrosc么p".

Bydd yr ymchwiliad yn gallu clywed tystiolaeth ar lafar o dan lw, ac ychwanegodd Mr Johnson bod gan y wladwriaeth ddyletswydd "i ddysgu bob gwers ar gyfer y dyfodol".

Ymchwiliad penodol i Gymru?

Yn y cyfamser, dylai sefydlu ymchwiliad penodol i Gymru fod yn un o weithredoedd cyntaf llywodraeth newydd Cymru, yn 么l arweinydd Plaid Cymru.

Dywedodd Adam Price y gallai gweinidogion Llafur Cymru "arwain trwy esiampl trwy sefydlu ymchwiliad ar unwaith" yn benodol i Gymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cefnogi "ymchwiliad annibynnol pedair gwlad".

Llynedd roedd y gwrthbleidiau yn Senedd Cymru wedi galw am ymchwiliad cychwynnol penodol i Gymru ac ymdriniaeth y llywodraeth yma o'r pandemig.

Gwrthod hynny wnaeth Mark Drakeford ar y pryd hefyd, gan ddweud y dylai'r broses ystyried y DU yn gyfan.