大象传媒

Urdd: Cadw elfennau o Eisteddfod T yn bosib i'r dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
LlangrannogFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Eisteddfod T yn cael ei darlledu o stiwdio arbennig yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog eleni

Mae'r Urdd yn ystyried cadw "ambell i elfen o Eisteddfod T at Eisteddfodau'r dyfodol" wrth i'r 诺yl gael ei chynnal yn rhithiol am yr ail flwyddyn yn olynol.

Gwersyll yr Urdd Llangrannog yng Ngheredigion fydd lleoliad yr 诺yl ddigidol Eisteddfod T eleni.

Bydd yr Eisteddfod rithiol yn cael ei chynnal yn ystod hanner tymor y Sulgwyn - o ddydd Llun, 31 Mai hyd at ddydd Gwener, 4 Mehefin.

Mae 12,000 o blant a phobl ifanc wedi cystadlu yn Eisteddfod T eleni - dwbl niferoedd y llynedd.

'G诺yl sy'n esblygu'

Dywedodd Si芒n Eirian, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau, fod yr ymateb eleni wedi bod yn "syfrdanol".

"Mae Eisteddfod T wedi bod yn gyfle i edrych ar y ein cystadlaethau mewn ffordd hollol wahanol," meddai.

"Mae'r digidol yn ail natur i blant a phobl ifanc Cymru yn barod ond r诺an o ganlyniad i Covid-19 mae llawer o bobl wedi dechrau defnyddio technoleg fel Zoom, Facetime, Teams ac yn y blaen am y tro cyntaf yn eu bywydau.

"Felly mae hi wedi bod yn bleser gallu trefnu a chynnal g诺yl fydd yn dod 芒 chenedlaethau a phobl at ei gilydd yn rhithiol, gan fod y dechnoleg yna'n barod.

"Mae mwy na 12,000 wedi cystadlu yn Eisteddfod T eleni, dwbl niferoedd llynedd, sy'n brawf fod ap锚l eang i'r 诺yl.

"Efallai wir y byddwn ni yn dewis cadw ambell i elfen o Eisteddfod T at Eisteddfodau'r dyfodol - mae'n 诺yl sy'n esblygu dros amser a dyna yw ei chryfder."

Yn 么l adroddiad blynyddol 2019, fe gystadlodd tua 70,000 o bobl gyda 100,000 a mwy o ymwelwyr yn heidio i Fae Caerdydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Darlledwyd Eisteddfod T 2020 o stiwdio dros dro yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd

O ganlyniad i'r sefyllfa iechyd, cafodd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ei gohirio tan 2022, sef blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd.

Golygai hyn fod Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin wedi symud i 2023, ac Eisteddfod yr Urdd Maldwyn i 2024.

Wrth siarad ar raglen Bethan Rhys Roberts fore Sul dywedodd Sian Lewis, prif weithredwr yr Urdd, ei bod yn gobeithio y bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych am ddim.

"Mae'r Prif Weinidog wedi datgan yn y maniffesto Llafur y bydd yr Eisteddfod flwyddyn nesaf am ddim a dwi'n wir obeithio y bydd yr addewid yna yn parhau ar gyfer Eisteddfod Dinbych," meddai.

Ffynhonnell y llun, Urdd

Yn wahanol i'r llynedd, y bwriad eleni ydy cynnal prif seremon茂au Eisteddfod T ar leoliad yng Ngwersyll Llangrannog, a hynny o fewn cyfyngiadau Covid-19.

Mae'r trefnwyr wedi llwyddo i ail-recordio perfformiadau rhai unigolion mewn stiwdios darlledu.

Dywedodd Eifion Evans, prif weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, bod yr awdurdod wedi "gweithio'n agos iawn" gyda'r mudiad dros y misoedd diwethaf i "sicrhau trefniadau a fydd yn boddhau gofynion a rheolau Covid-19 yn llawn".

'Ddim allan o'r d诺r dwfn'

Y llynedd, dywedodd y mudiad mai dyma'r "cyfnod mwyaf heriol yn ei 98 mlynedd o hanes" gyda dros 160 wedi gadael allan o gyfanswm o 328 o aelodau staff.

Mae'r rhagolwg ariannol am y ddwy flynedd nesaf hefyd "yn dangos gostyngiad incwm sylweddol o 拢14m a cholledion o dros 拢3.4m" i'r mudiad.

Dywedodd Sian Lewis fod pethau yn parhau i fod yn heriol ond fod yr Urdd wedi gwerthfawrogi'n fawr gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn.

"'Dan ni ddim allan o'r d诺r dwfn ar hyn o bryd - 'dan ni'n symud ymlaen yn bositif," meddai.