大象传媒

Gweinidog Ceidwadol yn galw am ymddiswyddiad AS Delyn

  • Cyhoeddwyd
Rob RobertsFfynhonnell y llun, T欧'r Cyffredin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynyddu mae'r pwysau ar Rob Roberts i ymddiswyddo fel AS Delyn

Mae ail weinidog o fewn Llywodraeth y DU wedi erfyn ar AS Ceidwadol Delyn, Rob Roberts i gamu o'r neilltu fel bod modd cynnal isetholiad.

Daeth yr alwad gan yr Ysgrifennydd Cymunedau Robert Jenrick wedi i Mr Roberts gael ei wahardd o'r Senedd am chwe wythnos yn sgil camymddygiad rhywiol.

Mae Arweinydd T欧'r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg ac arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer hefyd wedi dweud y dylai Mr Roberts ymddiswyddo.

Ond mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart wedi gwrthod dweud naill ffordd neu'r llall a ddylai Mr Roberts ildio'i sedd.

"Nid wyf yn meddwl bod yna unrhyw beth allai ddweud a fyddai'n helpu unrhyw un o'r bobl sy'n rhan o'r sefyllfa," meddai Mr Hart mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Mr Roberts ddydd Iau.

"Dydw i ddim am ychwanegu at y dryswch neu'r math o s诺n cefndir ynghylch casgliadau corff annibynnol."

Pe byddai Pwyllgor Safonau'r Senedd yn hytrach na phanel annibynnol wedi ymchwilio i'r honiadau o aflonyddu yn erbyn cyn-weithiwr Seneddol, a dod i'r un casgliadau, fe fyddai Mr Roberts wedi wynebu deiseb ail-alw yn awtomatig.

Dywedodd Mr Jenrick y dylai Mr Roberts gamu o'r neilltu "fel bod modd galw isetholiad er mwyn ethol rhywun sy'n gallu cynrychioli'r rhan yna o'r wlad yn well".

Wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru yn ystod ymweliad 芒 Threorci, fe bwysleisiodd: "Nid yw Rob Roberts yn aelod bellach o'r Blaid Geidwadol, mae wedi colli'r chwip o ganlyniad i'w weithredoedd."

Heb chwip y Tor茂aid, mae modd i Mr Roberts ddychwelyd i D欧'r Cyffredin fel aelod annibynnol pan ddaw ei waharddiad i ben.