Gorchymyn D诺r Cymru i dalu dros 拢200,000 am lygru afon

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod y llygredd wedi lladd miloedd o bysgod

Bu'n rhaid i D诺r Cymru dalu 拢205,000 dydd Mercher wedi iddyn nhw lygru afon mewn digwyddiad gafodd ei achosi gan broblem gyda malwod.

Clywodd llys yn Llandudno bod hyd at 675,000 litr o garthion heb ei drin wedi gollwng i Afon Clywedog ger Wrecsam mewn cyfnod o awr ar 4 Medi, 2018.

Wrth erlyn ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, dywedodd Dafydd Roberts fod naw cilomedr o'r afon wedi dioddef, a bod may na 3,000 o bysgod - gan gynnwys brithyll ac eog - wedi marw.

Mae'r afon hefyd yn darparu d诺r yfed i fwy na dwy filiwn o bobl yng ngogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.

Ychwanegodd Mr Roberts mai hwn oedd "y digwyddiad o ladd pysgod mwyaf yng ngogledd Cymru ers nifer o flynyddoedd".

Ymddiheuro

Wrth amddiffyn y cwmni, dywedodd Richard Kimblin bod niferodd y pysgod wedi adfer yn sylweddol. Digwyddodd yr anffawd pan oedd nythfa o falwod wedi tyfu ger gwaith trin d诺r Five Fords, ac fe gafodd penderfyniad ei wneud i wagio un siambr.

Ond fe wnaeth y cwmni gamgymeriad, ac roedd tanciau wedi gorlifo yn ystod y gwaith.

Dywedodd Mr Kimblin fod D诺r Cymru yn "arwain y diwydiant" yn nhermau perfformiad amgylcheddol.

Fe wnaeth y barnwr Gwyn Jones roi dirwy o 拢180,000 i'r cwmni ynghyd 芒 chostau o 拢25,800.

Plediodd D诺r Cymru yn euog i dri chyhuddiad yn ymwneud 芒'r llygru.

Roedd y barnwr yn derbyn "i gwmni fel D诺r Cymru mae'n anochel y bydd rhai trafferthion yn codi".

Wedi'r gwrandawiad, dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Rydym yn ystyried ein cyfrifoldeb i warchod yr amgylchedd o dan ein gofal o ddifri. Yn yr achos hwn rydym yn derbyn na wnaethom gyrraedd y safonau ac rydym yn ymddiheuro am hynny."