Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Aur i Hannah Mills yn yr hwylio yn Tokyo
Mae'r Gymraes Hannah Mills wedi ennill medal aur i d卯m Prydain, gyda'i phartner Eilidh McIntyre, yn yr hwylio yng Ngemau Olympaidd Tokyo.
Mills, o Gaerdydd, bellach ydy'r hwylwraig fwyaf llwyddiannus erioed yn y Gemau Olympaidd wedi iddi ennill yng nghystadleuaeth y dosbarth 470 ddydd Mercher.
Daw hynny wedi iddi ennill medal arian yn yr un gystadleuaeth yn Llundain yn 2012, ac aur yn Rio yn 2016.
Roedd Mills a McIntyre wedi rheoli'r gystadleuaeth yn Enoshima o'r dechrau, gan ennill dau gymal, ac roedd gorffen yn bumed yn y ras olaf yn ddigon i selio'r fedal aur.
Roedd rhaid aros am gadarnhad o'r canlyniad yn dilyn protest gan d卯m Ffrainc ar ddiwedd y ras, ond cafodd hynny ei wrthod gan swyddogion.
Mae'n golygu bod Gwlad Pwyl yn cael arian, a Ffrainc yn cael y fedal efydd.