Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Croeso adref i'r pencampwr Olympaidd Lauren Price
Mae cannoedd o bobl wedi ymgasglu ar strydoedd Ystrad Mynach i groesawu'r pencampwr Olympaidd Lauren Price adref.
Ar 么l pythefnos o gystadlu yn Japan, mae'r bocsiwr wedi dychwelyd i d欧 ei nain yn Sir Caerffili.
Llwyddodd Price i ennill medal olaf T卯m Prydain yn Tokyo 2020, gan sicrhau aur yn y bocsio 69-75kg.
Hi yw'r cystadleuydd cyntaf o Gymru i ennill medal aur bocsio yn y Gemau Olympaidd.
Wrth ddod adref i dorf yn rhuo, dywedodd ei bod hi'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth.
"O' ni ddim yn disgwyl gymaint o bobl a hyn... mae'n anhygoel," meddai.
"Dwi mor ddiolchgar i bawb, yn enwedig pobl Cymru.
"Er fy mod i'n T卯m GB dwi'n cynrychioli Cymru pob tro dwi'n cystadlu ac mae'r gefnogaeth wedi bod yn ffantastig, o'n i wir ddim yn disgwyl hyn.
"Diolch am ddod yma a chefnogi fi, mae'n meddwl y byd," ychwanegodd.
Diolchodd Price i'w nain a'i thaid, wrth weld ei nain Linda am y tro cyntaf mewn chwe wythnos.
Fe wnaeth Linda a'i gwr Derek, a fu farw llynedd, fagu Price ers iddi fod yn ifanc iawn.
Dywedodd Price bod cefnogaeth ei nain a'i thaid yn hanfodol i'w llwyddiant ym myd y campau, sydd hefyd yn cynnwys 52 cap i d卯m p锚l-droed Cymru a phedwar Pencampwriaeth Cic-Bocsio y Byd.
"Hebddi hi ni fyddwn i byth wedi cyflawni fy mreuddwydion. Hi a fy nhaid sydd wedi cefnogi fi ers i mi fod yn dri diwrnod oed a dwi methu diolch iddyn nhw digon," meddai.
"Oedd hi'n ffonio fi ar y ffordd adref ac o ni'n llawn dagrau. Dwi wedi bod i ffwrdd am chwe wythnos, felly i ddod adref a gweld hi wedi bod yn anhygoel."