Pum ardal yng Nghymru am fod yn Ddinas Diwylliant 2025

Disgrifiad o'r llun, Mae Bangor, Casnewydd, Conwy, Powys a Wrecsam wedi mynegi diddordeb ar gyfer 2025

Mae pum ardal yng Nghymru wedi mynegi diddordeb mewn cael eu henwi'n Ddinas Diwylliant y DU yn 2025.

Mae cyfanswm o 20 ardal wedi gwneud cais am y statws ymhen pedair blynedd - gydag o leiaf un cais o bedair gwlad y DU.

Yr ardaloedd yng Nghymru ydy Bangor a gogledd-orllewin Cymru, Casnewydd, Sir Conwy, Powys a Sir Wrecsam.

Unwaith pob pedair blynedd mae ardal yn derbyn y statws, gyda'r cais llwyddiannus ar gyfer 2025 yn cael olynu Coventry fel Dinas Diwylliant 2021.

Bydd y rhestr o 20 ardal yn cael ei chwtogi yn yr wythnosau nesaf cyn i restr fer derfynol gael ei chyhoeddi ar ddechrau 2022.

Fe fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2022.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd DCMS bod Coventry eisoes wedi denu dros 拢100m mewn buddsoddiad o ganlyniad i'r statws

Dywedodd Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS) bod 20 o lefydd wedi mynegi diddordeb - y nifer uchaf erioed ar gyfer cam cyntaf y broses.

Bwriad statws Dinas Diwylliant y DU ydy rhoi cyhoeddusrwydd i wahanol ardaloedd o'r wlad er mwyn eu "rhoi ar y map diwylliannol ledled y byd".

Er mwyn ennill yr hawl am y statws bydd yn rhaid i'r ardaloedd brofi y gallan nhw roi diwylliant wrth galon eu cynlluniau i adfer o effaith y pandemig.

Dywedodd DCMS bod ymgeisio am y statws wedi profi'n hwb enfawr i ardaloedd yn y gorffennol, hyd yn oed yn y llefydd hynny na lwyddodd i gael eu henwi'n Ddinas Diwylliant.

Ond mae gwobrau llawer mwy i'r enillwyr, gyda Coventry wedi derbyn dros 拢15.5m gan Lywodraeth y DU er mwyn cefnogi ei flwyddyn fel Dinas Diwylliant 2021 a'r ddinas eisoes wedi denu dros 拢100m mewn buddsoddiad o ganlyniad i'r statws.

Roedd Abertawe ymysg y pum ardal oedd ar y rhestr fer ar gyfer 2021 ond Coventry gafodd ei dewis i olynu Hull.