Yr Eglwys yng Nghymru i fendithio cyplau un rhyw
- Cyhoeddwyd
Mewn pleidlais hanesyddol, mae corff llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru wedi cefnogi caniat谩u bendithio priodas neu bartneriaeth sifil cyplau un rhyw mewn gwasanaeth eglwysig.
Fe fydd y rheol newydd mewn grym am gyfnod arbrofol o bum mlynedd.
Ond dyw'r bleidlais ddim yn golygu y bydd cyplau o'r un rhyw yn cael priodi mewn eglwys.
Dywedodd Yr Eglwys yng Nghymru bod y penderfyniad "yn gam tuag at edifeirwch yn sgil hanes o fewn yr Eglwys sydd wedi cythreulio ac erlid pobl hoyw a lesbiaidd".
Bydd offeiriaid unigol yn cael dewis peidio bendithio cyplau un rhyw ac mae rhai aelodau ceidwadol yn rhybuddio y bydd y newid yn creu hollt.
Cafodd Bil yn awdurdodi gwasanaeth bendithio ei basio gan dair urdd corff llywodraethol yr Eglwys mewn cyfarfod yng Nghasnewydd.
Mae'r newid yn un arwyddocaol gan fod bendith, yn nhermau diwinyddol, yn dynodi cymeradwyaeth Duw.
Mae Eglwys Lloegr yn dal yn ystyried rhyw o unrhyw fath tu hwnt i berthynas heterorywiol yn bechadurus.
'Ddim yn gam llawn at gydraddoldeb'
Mae Joshua Beynon, 24, sy'n gynghorydd yn Sir Benfro, yn "hoyw-agored" ac wedi dioddef llawer o fwlio homoffobaidd.
Dywedodd fod penderfyniad yr Eglwys i fendithio priodas cyplau un rhyw yn "gam cadarnhaol" ymlaen ond nad yw'n "gam llawn tuag at gydraddoldeb".
"Dydw i ddim yn grefyddol o gwbl ond rwy'n adnabod pobl o'r gymuned LGBT sy'n grefyddol ac yn teimlo fel bod rhywun yn gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd y ffordd y mae'r Eglwys wedi'u trin," meddai.
"Ac mae'n ymwneud 芒'r ffordd at gydraddoldeb yn gyffredinol; os oes gennych chi sefydliadau a sectorau o fewn cymdeithas sydd ddim yn croesawu ac yn parchu hawliau pawb, gan gynnwys aelodau o'r gymuned LGBT, yna ni fydd cydraddoldeb."
Ychwanegodd Mr Beynon fod "cyd-ddealltwriaeth" yn "gwneud gwahaniaeth".
"Mae [penderfyniad Yr Eglwys] yn ein rhoi ar y ffordd at gydraddoldeb ond hefyd yn caniat谩u i bobl eraill i ddysgu mwy am beth yw bod yn aelod o'r gymuned LGBT.
"Er y gall [y penderfyniad] arwain at ymateb negyddol gan rai pobl o fewn yr Eglwys, rwy'n credu y gallai'r newid wella pethau a datblygu cysylltiadau rhwng y cymunedau yn y dyfodol.
"Mae angen i gymdeithas fodern gael ei chynrychioli gan sefydliadau modern."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2021