大象传媒

Hydrogen: Cyfle i greu miloedd o swyddi i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Harriet Murray Jones yn rhoi tanwydd mewn car hydrogen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Harriet Murray Jones yn un o'r rhai sy'n treialu car hydrogen ar hyn o bryd

Gallai'r diwydiant ynni hydrogen greu miloedd o swyddi yng Nghymru, yn 么l un arbenigwr.

Mae nifer o'r farn mai hydrogen fydd tanwydd y dyfodol, yn cynhesu'n cartrefi, coginio ein bwyd ac yn gyrru'n cerbydau.

Mae'n well i'r amgylchedd, ac mae rhai yn credu bod ganddo'r potensial i roi'r un math o hwb i'r economi ac y gwnaeth y diwydiant olew a nwy yn y gorffennol.

Mae'n bosib cynhyrchu hydrogen trwy wahanol ddulliau, ond mae gwahaniaeth barn yngl欧n 芒'r hyn sydd orau i'r amgylchedd.

'Cyfle ffantastig'

Dywed HyCymru - Cymdeithas Fasnach Hydrogen Cymru - bod y tanwydd yn cynnig "cyfle ffantastig i Gymru" i greu miloedd o swyddi.

"Meddyliwch am y nifer o swyddi yn y diwydiant tanwydd ffosil - gallai'r rheiny gael eu trosglwyddo i'r diwydiant hydrogen," meddai cydlynydd HyCymru, Guto Owen.

"Hefyd, swyddi'r sector ynni adnewyddol, cynhesu, isadeiledd, cynhyrchu p诺er a'r holl gerbydau y gellid eu cynhyrchu."

Ond dylai Cymru ddysgu gwersi o'r sector ynni gwynt, a cheisio cadw perchnogaeth unrhyw gyfleon a busnesau newydd, yma yng Nghymru.

"Dwi'n meddwl y dylai [datblygiadau ynni hydrogen] fod yn gymysgedd o rai cyhoeddus, preifat a chymunedol er mwyn cadw'r cyfoeth yma yng Nghymru," meddai.

"Byddai hynny'n cadw cymaint 芒 phosib o'r swyddi tymor hir yng Nghymru, a chadw'r cyfoeth a'r trethi yn y wlad hefyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rydym ar drothwyr ffyniant eto, yn 么l Tim James

Olew, nwy, a hydrogen

Ar un adeg roedd pump purfa olew ym mhorthladd Aberdaugleddau, Sir Benfro, ond dim ond un sydd ar 么l bellach.

Trodd y pwyslais tuag at nwy, a chafodd dau safle newydd eu hadeiladu yno er mwyn mewnforio nwy hylifol i ddiwallu anghenion ar draws y DU.

Yn ystod y cyfnod clo cafodd 85% o nwy y DU ei fewnforio drwy Aberdaugleddau, yn 么l Tim James, sy'n gyfrifol am ddatblygiadau ynni o bob math yn y porthladd.

"Rydym ar drothwy cyfnod ffyniannus arall," meddai.

"Oherwydd yr adnoddau, yr isadeiledd, y gadwyn gyflenwi, a'r potensial sydd gennym yma, mae'r holl gynhwysion i wneud i'r b诺m nesaf ddigwydd ar gael yma," meddai.

Ffynhonnell y llun, audioundwerbung/Getty Images

Cwmni Wales and West Utilities sy'n dosbarthu nwy yn ne Cymru a rhannau o'r canolbarth, ac maent eisoes yn uwchraddio'r pibellau yn barod i gario hydrogen, gan na fydd hawl gwerthu boeleri nwy yn y DU ar 么l 2025.

"Rydym mewn argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid inni ymateb ar gyfer Net Sero," meddai Sarah Williams, ar ran y cwmni.

Byddai hydrogen yn rhoi profiad tebyg iawn i nwy naturiol i'w cwsmeriaid, meddai.

Agwedd ddadleuol

Mae disgwyl y bydd llawer o s么n am hydrogen yng nghynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig sydd i'w chynnal yn Glasgow ym mis Tachwedd.

Ond er ei fod yn ymddangos fel ateb perffaith ar gyfer lleihau carbon, a chyrraedd targed Net Sero, mae un agwedd ddadleuol i'r diwydiant hydrogen, sef y ffordd mae'n cael ei gynhyrchu, a'r effaith ar yr amgylchedd.

Mae hydrogen "gwyrdd" yn defnyddio trydan o ffynonellau adnewyddol i rannu d诺r, neu H2O, i hydrogen ac ocsigen. Mae'r ocsigen yn diflannu i'r amgylchedd gan adael yr hydrogen ar 么l i'w ddefnyddio.

Ar y llaw arall mae hydrogen "glas" yn defnyddio nwy - sef tanwydd ffosil - i wneud y gwaith.

Mae strategaeth Llywodraeth y DU yn argymell defnyddio'r ddau ddull, ond mae hynny wedi hollti barn yn y ddwy garfan.

Mae cefnogwyr hydrogen "gwyrdd" yn mynnu ei fod yn well i'r amgylchedd ac y byddai'n helpu i gyrraedd Net Sero'n gynt.

Byddai hefyd yn cysylltu gyda ffermydd gwynt newydd fydd yn cael eu creu yn y M么r Celtaidd, tra bod y nwy ar gyfer hydrogen "glas" yn cael ei fewnforio o wledydd megis Qatar.

Mae cefnogwyr hydrogen "glas" yn dadlau mai dyna'r ffordd gyflymaf i ddechrau defnyddio hydrogen ar raddfa eang, er mwyn cael effaith ar yr hinsawdd ynghynt.

Mae cwmn茂au mawr fel Toyota a Hyundai yn gwneud ceir hydrogen eisoes, ac yn Llandrindod mae cwmni Riversimple wedi dylunio car hydrogen.

Mae'n cael ei dreialu gan gwsmeriaid posib yn Sir Fynwy, sy'n gallu defnyddio hydrogen o safle bychan yng ngorsaf fysiau Y Fenni.

Mae'r twrnai lleol, Harriet Murray Jones, yn un ohonynt.

"Mae'n teimlo'n hollol fel car normal," meddai.

"Dydych chi ddim yn ymwybodol eich bod yn gyrru car hydrogen yn hytrach na char petrol neu ddiesel. Roedd posib ei ail-lenwi yn sydyn a doedd o ddim yn drewi.

"Un o bryderon bywyd ydi'r amgylchedd ac os allwn ni wneud rhywbeth i sortio petrol a diesel allan, byddai hynny'n wych."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hugo Spowers o gwmni Riversimple gydag un o'i geir hydrogen

Mae cwmni Riversimple wedi bod yn dylunio a chynhyrchu ceir hydrogen ers 2007, ac mae sylfaenydd y cwmni, Hugo Spowers, yn bendant mai hydrogen "gwyrdd" yw'r ffordd orau ymlaen.

Ond nid yw'n credu y bydd modd ei ddatblygu ochr yn ochr 芒 hydrogen "glas" wedi ei gynhyrchu gan gwmn茂au mawr.

"Dwi'n meddwl bod y diwydiant tanwydd ffosil yn llawer mwy pwerus na'r lobi adnewyddol, a dyna ble bydd yr arian yn mynd."

Byddai hydrogen "glas" yn amddifadu'r sector adnewyddol o'r buddsoddiad fyddai ei angen i'w ddatblygu, meddai, ac o ganlyniad "byddai'r holl arian yn mynd i mewn i hydrogen 'glas' yn lle hynny".

Pynciau cysylltiedig