Pryder nad yw cymunedau yn elwa o brosiectau solar mawr

Ffynhonnell y llun, Hywel Hughes

Disgrifiad o'r llun, Protest yn gynharach y mis hwn yn erbyn datblygiad solar
  • Awdur, Sion Pennar
  • Swydd, Gohebydd ´óÏó´«Ã½ Cymru

Mae angen i Lywodraeth Cymru "ymyrryd" i sicrhau fod cymunedau'n elwa o brosiectau solar mawr, yn ôl Cyngor Ynys Môn.

Yn y misoedd diwethaf, mae sawl prosiect o'r fath wedi cael eu hamlinellu ar gyfer y sir.

Pryder y Cynghorydd Carwyn Jones yw bod "miloedd o aceri o dir amaethyddol" yn cael ei golli, a'r elw'n mynd allan o'r ardal.

Dywedodd y llywodraeth bod gofyn i brosiectau "sicrhau manteision" i gymunedau.

'Oes unrhyw fanteision i'r prosiectau i Fôn?'

Ymhlith y datblygiadau sydd wedi eu cyflwyno hyd yma mae Parc Solar Môn, fyddai'n defnyddio 2,000 acer o dir ger Amlwch, Llannerch-y-medd a Llyn Alaw.

Byddai ganddo gapasiti o 350 MW - digon i gynnal dros 130,000 o gartrefi'r flwyddyn.

Mae prosiect arall, hefyd ar lan Llyn Alaw, yn rhagweld 750 acer o baneli solar.

Gan fod y rhain yn ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, gweinidogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol, yn y diwedd, am eu cymeradwyo neu eu gwrthod.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn annog cymunedau a sefydliadau lleol i gyflwyno cynigion

Ond teimla'r Cynghorydd Jones, sy'n gyfrifol am yr economi ar Gyngor Ynys Môn, nad ydy pobl leol yn elwa o bob prosiect.

"Dydy'r manteision lleol ddim yn dod 'efo nhw, sef yr hwb i'r economi lleol, y swyddi a'r manteision i'r gymuned leol, a pherchnogaeth leol," meddai.

"Pan 'dach chi'n sbïo ar yr ochr arall: colled posib tir ffrwythlon amaethyddol - miloedd o aceri - colled tir sydd heb ei ddatblygu yng nghefn gwlad i fynd yn ddiwydiannol, yr effaith bosib ar dwristiaeth a phroblemau 'efo capasiti'r grid...

"Mae angen pwyso a mesur yn galed i weld a oes unrhyw fanteision i'r prosiectau yma i Ynys Môn."

Ychwanegodd bod angen i'r llywodraeth fynnu bod datblygwyr yn cynnig opsiynau fel perchnogaeth leol.

"'Swn i'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i esbonio'n glir i ddatblygwyr fod rhaid i'r manteision - perchnogaeth leol, buddion cymunedol - fod yna, a dim yr effaith gronnus 'dan ni'n mynd i'w weld o golli miloedd o aceri o dir ffrwythlon," meddai.

'Difetha cynefin pobl'

Ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal i gynlluniau i godi fferm solar 35 MW ar 135 acer o dir ger pentrefi Bryngwran a Chaergeiliog.

Ond mae ymgyrchwyr wedi cymharu effaith bosib Parc Solar Traffwll i foddi Capel Celyn yng Ngwynedd yn y 1960au.

"'Dan ni'n cytuno 'efo ynni adnewyddadwy ond dydy hynny ddim yn dweud bod pob datblygiad yn gweddu i'r ardal lle mae'n cael ei gynnig," meddai Hywel Hughes, sy'n byw ym Mryngwran.

"Dydy o ddim yng nghynllun datblygu lleol Gwynedd a Môn, sydd wrth gwrs yn adnabod tir sy'n addas ar gyfer unrhyw fath o ddatblygiad, boed o'n wynt neu'n solar.

"Mae hefyd yn difetha ardal, a faswn i'n mynd mor bell â dweud ei fod yn difetha cynefin pobl, oherwydd mae'n agos iawn i bentref Bryngwran."

Disgrifiad o'r llun, Mae ymgyrchwyr wedi cymharu'r prosiectau solar ar Ynys Môn i foddi Capel Celyn i greu cronfa ddŵr yn y 1960au

Ond yn ôl James Hartley-Bond, un o benaethiaid y datblygwyr, Low Carbon, mae'r fenter yn gyfle "i gynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy… heb effeithio'n ormodol ar yr ardal leol".

Gan nodi bod yr ymgynghoriad yn cau ar 17 Medi, ychwanegodd: "O ran buddion lleol, rydym ni'n edrych gyda chyfranddalwyr ar gyfleon i gael perchnogaeth leol, a byddwn yn gwerthfawrogi sylwadau pellach neu adborth ar y mater hwn."

Dadlau mae Rhys Wyn Jones, o gorff RenewableUK Cymru, nad ydy perchnogaeth gymunedol yn addas i bob prosiect. Mae'n credu bod "datblygwyr cyfrifol" hefyd yn ymgysylltu'n effeithiol gyda chymunedau.

"Dwi ychydig yn amheus am osod lefelau penodol o berchnogaeth neu fuddion cymunedol fel amod i roi caniatâd i brosiect, achos fyddai hynny ddim yn briodol," meddai.

"Mae'n bwysicach bod yr effeithiau amgylcheddol, yr effeithiau cronnus, a'r effaith ar fioamrywiaeth, yn feini prawf o ran penderfynu os yw prosiect yn digwydd ai peidio.

"Ond dwi'n meddwl ei bod hi'n gyfrifoldeb ar ddatblygwr unrhyw brosiect ynni adnewyddol i ymgysylltu i weld beth yn union fyddai'n addas ac o fudd i gymunedau, gan fod pob cymuned sy'n gartref i brosiect ynni adnewyddol yn wahanol."

'Sicrhau manteision'

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd pobl Cymru'n elwa wrth iddyn nhw "barhau i ddisodli tanwydd ffosil gyda ffynonellau ynni adnewyddadwy" i "fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd".

Ychwanegodd llefarydd: "Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i brosiectau yng Nghymru sicrhau manteision yn unol â'n nodau llesiant.

"Mae gennym hanes o ddarparu prosiectau ynni adnewyddadwy lleol ledled y wlad. Rydym yn annog cymunedau a sefydliadau lleol i gyflwyno cynigion.

"Gall unrhyw gynigion ar gyfer prosiectau unigol ddod gerbron gweinidogion Cymru i'w penderfynu, felly ni fyddai'n briodol i Lywodraeth Cymru wneud sylw pellach."