Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwtogi nifer penodau Pobol y Cwm yn sgil costau Covid
Mae S4C wedi cadarnhau y bydd nifer penodau'r gyfres deledu boblogaidd Pobol y Cwm yn cael ei gwtogi o bedair i dair yr wythnos o fis Tachwedd.
Costau Covid ychwanegol am y flwyddyn ariannol bresennol "yw'r prif reswm" am y penderfyniad, yn 么l y sianel.
Mae trafodaethau'n parhau gyda'r 大象传媒 yngl欧n 芒'r gyfres nesaf o fis Ebrill ymlaen.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C bod "nifer o bethau i'w hystyried a'u cytuno".
Mae'r materion hynny'n cynnwys "beth yw effaith Covid ar y drefn cynhyrchu o Ionawr ymlaen, costau ychwanegol sy'n deillio o gynhyrchu dan drefniadau Covid [a] deisyfiad S4C i gael cynnwys digidol / ar-lein dan faner Pobol y Cwm."
Mae angen hefyd "ystyried sut mae costau diweddaru offer technegol i gyd yn bwydo mewn i'r broses".
Ychwanegodd y llefarydd: "Gobaith S4C yw dod 芒'r trafodaethau i fwcl cyn gynted 芒 phosib er mwyn i bawb gael eglurder ynghylch y dyfodol."