10 rhaglen S4C sy'n haeddu eu lle yn y Llyfrgell Gen
- Cyhoeddwyd
Pa raglenni S4C fydd yn si诺r o gael eu hastudio yn y dyfodol i ddysgu am dwf darlledu Cymraeg, hanes cymdeithasol Cymru a datblygiad yr iaith?
Mae cyfresi a ffilmiau'r sianel yn cael eu trosglwyddo i ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru i'w cadw ochr yn ochr 芒 ffynonellau hanesyddol eraill. Felly dyma ddewis o 10 rhaglen sy'n cynrychioli cynnyrch S4C ers ei lansiad yn 1982 sy'n sicr werth eu cadw.
Cefn Gwlad
Y rhaglen gyntaf i haeddu ei lle ar silffoedd y Llyfrgell Genedlaethol i nifer o bobl gan mai dyma un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C ers pedwar degawd.
Ond mae'r gyfres hefyd yn ffynhonnell hanesyddol bwysig ar 么l dogfennu ffordd o fyw sydd wedi diflannu erbyn hyn, a rhoi cymeriadau fel John Parry Moch, Don Garreg Ddu a Mary Jones Pantafon ar gof a chadw am byth.
Mae Cefn Gwlad hefyd yn gofnod o rhan o yrfa un o s锚r y byd darlledu Cymraeg - Dai Jones Llanilar, y cyflwynydd o'r rhaglen gyntaf un yn 1982 tan ei ymddeoliad diweddar.
SuperTed
"Nid tedi cyffredin mohono..." gan fod SuperTed wedi cael ei wylio gan blant mewn gwledydd ar draws y byd ers cael ei darlledu gyntaf ar S4C yn yr 1980au.
Creadigaeth Mike Young o'r tedi gyda phwerau hud ydi un o brif lwyddiannau'r sianel a dyma'r sioe gyntaf a ddarlledwyd ar S4C ar ddiwrnod cyntaf ei darllediad ym mis Tachwedd 1982.
Cafodd SuperTed ei darlledu mewn 128 o wahanol wledydd a'i drosleisio i 32 o wahanol ieithoedd cyn y bennod olaf yn 1986. Yn 1984, SuperTed oedd y gyfres cart诺n gyntaf o Brydain i gael ei darlledu ar The Disney Channel yn yr Unol Daleithiau.
Dechrau Canu Dechrau Canmol
Fyddai dydd Sul ddim yn ddydd Sul heb Dechrau Canu, a does ryfedd gan ei bod yn un o'r rhaglenni teledu hynaf ym Mhrydain.
Cafodd ei darlledu am y tro cyntaf yn 1961 ar 大象传媒 Cymru cyn cael ei dangos ar S4C pan ddechreuodd y sianel yn 1982 - ac mae'n dal i fynd heddiw.
Mae'n archif enfawr o emynau yn cael eu canu mewn capeli ar hyd a lled Cymru.
C'mon Midff卯ld!
Byddai Arthur Picton yn sgwario o wybod10 rhaglen S4C sy'n haeddu eu lle yn y Llyfrgell Gen ei fod wedi ennill ei le yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Dros bedair cyfres a dwy ffilm, roedd anturiaethau t卯m p锚l-droed Bryncoch yn gwneud i'r Cymry chwerthin - ac mae'r rhaglenni yn dal i gael eu gwylio a'u dyfynnu heddiw.
Mae cymeriadau fel Wali Tomos, Tecs, George a Sandra yn rhan o hanes poblogaidd y Cymry Cymraeg ac wedi cyflwyno ymadroddion newydd ar lawr gwlad fel 'trafod tictacs', 'Harry paid 芒 chwarae efo hwnna', 'penci' ac 'asiffeta'. Anygoel ai!
Bacha Hi O 'Ma
Enghraifft o raglen stiwdio boblogaidd, gyda Alwyn Si么n yn ceisio helpu'r Cymry ddod o hyd i gariad.
Mae'r set yn adlewyrchu steil darlledu'r cyfnod, a'r dillad yn gofnod o'r ffasiwn ar y pryd.
Hedd Wyn
Ffilm hanesyddol wnaeth hanes ei hun - Hedd Wyn (1992) oedd y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei henwebu am Oscar.
Mae'r ffilm am y bardd o Drawsfynydd laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf erbyn hyn yn cael ei astudio fel rhan o gwrs Lefel A Cymraeg.
Rownd a Rownd
Un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C sydd yn apelio at bob oed, er bod y ddrama sebon wedi ei hanelu at gynulleidfa ifanc pan ddechreuodd n么l yn 1995.
Mae cymeriadau Glanrafon, sydd i'w gweld ddwywaith yr wythnos, wedi delio gyda nifer o bynciau llosg dros y blynyddoedd.
Tair Chwaer
Drama lwyddiannus wnaeth dorri tir newydd i'r sianel gan ddelio gyda materion fel rhyw, iechyd meddwl a gorddibyniaeth ar alcohol.
Yng ngwobrau Bafta Cymru 1999 cafodd Tair Chwaer, y ddrama gyntaf i Siwan Jones ei hysgrifennu i S4C, ei henwebu am 11 Bafta Cymru gan ennill chwech.
Sgorio
Cyn bod 'na sianeli lloeren di-ri yn dangos p锚l-droed o bob gwlad yn y byd roedd gwylwyr S4C yn gallu gweld y goreuon o wledydd fel Sbaen, yr Eidal a'r Almaen ar Sgorio.
Mae'r rhaglen, gafodd ei darlledu gyntaf yn 1988, wedi gorfod addasu ers y dyddiau cynnar oherwydd y gystadleuaeth gan sianeli eraill ac erbyn hyn mae'n dangos prif gemau Uwch Gynghrair Cymru.
Y Gwyll
Mae'r ddrama ditectif sy'n dilyn hynt a helynt DCI Tom Mathias yn haeddu ei lle am safon y cyfresi, ond mae hefyd yn nodedig am gael ei ffilmio gefn wrth gefn yn Gymraeg a Saesneg er mwyn cynyddu'r cyllid.
Fe gafodd fersiwn Gymraeg y gyfres gyntaf ei darlledu ar S4C fis Hydref 2013 a'r fersiwn Saesneg Hinterland ar 大象传媒 Wales a 大象传媒 Four yn 2014.