Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynghorwyr yn pleidleisio i gau Ysgol Abersoch
Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio yn unfrydol i gau Ysgol Abersoch er gwaethaf pryderon gan rai am effaith hynny ar yr iaith Gymraeg.
Bydd y chwech disgybl llawn amser a'r un disgybl oed meithrin yn cael eu trosglwyddo i Ysgol Sarn Bach - 1.4 milltir i ffwrdd. Mae disgyblion sy'n h欧n na blwyddyn tri eisoes yn mynychu'r ysgol honno.
Roedd adroddiadau cynharach wedi nodi bod 10 disgybl wedi'u cofrestru yn yr ysgol ond fe gafodd cynghorwyr wybod bod y niferoedd wedi gostwng erbyn y flwyddyn ysgol bresennol.
Yn ystod y cyfarfod ddydd Mawrth nododd swyddogion nad oedd hi'n debygol y byddai rhagor o blant yn mynd i'r ysgol yn ystod y blynyddoedd nesaf a bod ei dyfodol wedi bod yn "fregus am gryn amser".
Yn 么l y cyngor mae'r ysgol yn costio 拢17,404 y pen i'r awdurdod - dros bedair gwaith y cyfartaledd sirol o 拢4,198 a nodwyd y byddai cau'r ysgol yn arbed 拢96,062 yn flynyddol.
Clywodd y cyfarfod bod 21 o blant a allai fynychu'r ysgol yn cael eu haddysgu mewn ysgolion eraill.
Roedd yna ystyriaeth hefyd yn ystod y cyfarfod i gadw y Cylch Meithrin yn Ysgol Abersoch wedi iddi gau.
Cafwyd dros 200 o ymatebion yn ystod y cyfnod ymgynghori ar gau'r ysgol gan gynnwys dwy ddeiseb gyda 1,115 a 1,884 o enwau, yn gwrthwynebu.
Honnodd un y byddai gadael y pentref heb ysgol gynradd yn troi Abersoch yn le gwyliau i dwristiaid am rai misoedd, ac yn "dref ysbrydion" am weddill y flwyddyn.
Dywedodd un arall y byddai'r pentref yn colli ei ganolbwynt ac y byddai calon ac enaid y lle yn diflannu.
Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i'r cabinet oedi unrhyw benderfyniad tan ar 么l y Pasg ac yn dweud eu bod yn ffafrio "ffederasiwn rhwng ysgolion yr ardal gyda safle arbennig Ysgol Abersoch fel 'Ysgol Traeth' yn ehangu'r profiad addysgol i holl ysgolion y cylch".
Yn ystod y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, yr aelod cabinet dros addysg ar Gyngor Gwynedd, ei fod wedi colli cwsg yn sgil y mater ond ei fod yn bendant bod y broses ddwy flynedd wedi bod yn deg.
Fe wnaeth y cynghorydd lleol, Dewi Roberts, annog aelodau'r cabinet i ailystyried gan ddwyn i sylw effaith negyddol y penderfyniad ar yr iaith a'r diwylliant Cymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig ei fod e hefyd yn bryderus am effaith cau'r ysgol ar yr iaith Gymraeg a bod hi'n ddyletswydd cadw y Cylch Meithrin a'r gr诺p Ti a Fi.
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas bod addysgu pob disgybl mewn un dosbarth yn "destun pryder" ac ychwanegodd bod nifer o rieni Abersoch eisoes wedi penderfynu anfon eu plant i ysgolion eraill.
'Anwybyddu'r gymuned'
Wrth ymateb i'r penderfyniad dywedodd Ffred Ffransis, ar ran gr诺p addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Wrth gau yr ysgol mae Gwynedd yn tanseilio eu polis茂au tai ac iaith eu hunain trwy gefnu ar gymuned Abersoch, ac yn anfon arwydd clir at gymunedau eraill sydd dan bwysau nad yw'r Cyngor yn barod i sefyll i fyny drostyn nhw.
"Trwy gydol y broses, mae'r Cyngor wedi anwybyddu lleisiau'r gymuned a gwrthod ystyried opsiynau amgen byddai wedi galluogi'r ysgol i aros ar agor fel rhan o ffederasiwn.
"Roedd asesiadau'r Cyngor ei hun yn cydnabod byddai cau'r ysgol yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg a'r gymuned, ond eto maen nhw wedi eu hanwybyddu."
Bydd yr ysgol yn cau ar 31 Rhagfyr, 2021.