Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Ystyried' Wylfa fel rhan o gynlluniau ynni niwclear
Mae Llywodraeth y DU yn ystyried safle hen orsaf b诺er Wylfa fel rhan o gynlluniau i gynhyrchu mwy o ynni niwclear, meddai Boris Johnson.
Dywedodd y prif weinidog bod llywodraethau ym Mhrydain wedi "gwrthod gwneud penderfyniadau anodd dros niwclear am rhy hir".
Mae swyddogion yn cynnal "trafodaethau archwiliadol" gyda rhai grwpiau sydd eisiau adeiladau gorsaf niwclear newydd ar Ynys M么n.
Cafodd un cynllun ar gyfer gorsaf newydd ei hatal ar 么l i gwmni Hitachi fethu a dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU dros ariannu'r safle.
Wrth drafod gyda rhaglen Politics Wales 大象传媒 Cymru, dywedodd Mr Johnson: "I fod yn onest, mae llywodraethau yn y wlad yma wedi gwrthod gwneud penderfyniadau anodd am niwclear am rhy hir.
"Mae'n rhaid i ni symud ymlaen gyda mwy o ynni niwclear.
"Dwi yn meddwl y dylai fod yn rhan o'n cyflenwad sylfaenol.
"Felly dyna pam rydym yn edrych ar Wylfa yn ogystal 芒 llwyth o brosiectau eraill."
Dywedodd y gallai cost ynni gael ei gadw'n isel "os ydym yn gwneud y buddsoddiadau hirdymor sydd rhaid i ni eu gwneud yn ystod y genhedlaeth ynni glan".
Gallwch wylio Politics Wales ar 大象传媒1 Wales am 10:00 ddydd Sul 3 Tachwedd, neu ar wasanaeth 大象传媒 iPlayer.