大象传媒

Graddau is i ddisgyblion Cymru yn debygol yn 2022

  • Cyhoeddwyd
arholiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y disgwyl yw y bydd arholiadau arferol yn dychwelyd yn 2023

Gallai disgyblion wynebu graddau is yn 2022 wrth i'r corff sy'n gyfrifol am arholiadau yng Nghymru ddatgan eu bwriad i ddilyn Lloegr.

Mae Llywodraeth y DU eisiau dirwyn lefelau gradd anarferol o chwyddedig yn 么l i lefelau cyn-Covid dros ddwy flynedd.

Dywedodd Cymwysterau Cymru eu bod am weld "pwynt hanner ffordd" rhwng canlyniadau 2019 a 2022 y flwyddyn nesaf.

Y cynllun yw y bydd y canlyniadau erbyn 2023 yn 么l yn unol 芒 chanlyniadau'r blynyddoedd cyn y pandemig.

"Bydd ein hymagwedd yn cyd-fynd 芒'r dull a ddefnyddir yn Lloegr," meddai Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru.

"Mae hyn yn golygu y bydd canlyniadau yn 2022 yn adlewyrchu pwynt hanner ffordd yn fras rhwng 2021 a 2019 ac yn darparu chwarae teg i ddysgwyr Cymru, yn enwedig y rhai sy'n gwneud cais am fynediad i brifysgolion ledled y DU.

"Bydd llawer o ddysgwyr sy'n astudio ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch yn haf 2022 wedi wynebu aflonyddwch digynsail i'w haddysg dros y 18 mis diwethaf ac rydym am sicrhau bod eu hasesiadau yr haf nesaf mor deg 芒 phosibl."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd bron i hanner graddau Safon Uwch yng Nghymru yn 2021 yn A neu A* eleni

Y gobaith yw y bydd arholiadau wedi 2022 yn dychwelyd i'r drefn a fodolai cyn y pandemig.

Y llynedd cafodd arholiadau allanol eu canslo am yr ail flwyddyn yn olynol.

Ym mis Mawrth eleni dywedodd Cymwysterau Cymru y bydd arholiadau allanol disgyblion yn 2022 yn cael eu haddasu er mwyn cydnabod effaith y pandemig ar addysg myfyrwyr.

Disgrifiad,

Ymateb disgyblion am raddau arholiadau 2022

Dull wrth gefn

Os bydd arholiadau'n cael eu canslo, gofynnir i ysgolion a cholegau ddyfarnu graddau a bennir gan y canolfannau i ddysgwyr.

Byddai'r dull graddau a bennir gan ganolfannau yn debyg i'r un a ddefnyddiwyd yn 2021, ond fe fyddai rhai "gwelliannau i ystyried y dysgu o ddull eleni".

"Byddwn yn gweithio gyda CBAC i hysbysu ysgolion a cholegau o'r cynlluniau hyn fel bod pawb yn glir ynghylch beth sydd angen ei wneud.

"Rydym yn gwybod y gall dysgwyr fod yn bryderus a bod ganddynt bryderon ynghylch dychwelyd i arholiadau, a dyna pam, rydym yn cynllunio ystod o gyfathrebu i'w cefnogi nhw," ychwanegodd Mr Blaker.

Dadansoddiad ein gohebydd addysg, Bethan Lewis

Ers canslo arholiadau y tro cynta' yn 2020, mae pennu trefniadau amgen wedi bod yn benbleth.

Mae'r her o geisio sicrhau 'tegwch' i bobl ifanc ar adeg mor bwysig yn parhau.

Y plant sy'n gorffen cymwysterau yn haf 2022 sydd dan sylw nawr.

Plant sydd yn eu trydedd flwyddyn ysgol dan Covid - a heb wneud unrhyw arholiadau allanol.

Mae'r neges bod canlyniadau yn debygol o fynd lawr, heb i un papur gael ei sefyll eto, yn un anodd.

Ac mae nifer yn y byd addysg yn teimlo bod y pandemig wedi amlygu gwendidau'r drefn asesu ac eisiau newid sylfaenol yn hytrach na throi'r cloc yn 么l.

Pynciau cysylltiedig