Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Shelley Musker Turner
Y delynores Shelley Musker Turner sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan ei chwaer Judith Musker Turner yr wythnos diwethaf.
Ganwyd a magwyd Shelley yn Ffair Rhos, Ceredigion. Mae hi'n gweithio fel cyfrwywr (sadler) ar gyfer y diwydiant ffilm. Pan nad yw hi'n gwneud arfwisg ceffylau ar gyfer ffilmiau mae hi'n perfformio ar y delyn Geltaidd gyda'r band gwerin Calan.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Un o fy atgofion cyntaf yw bod ar gwch yn Zacynthos pan oeddwn i'n ddwy a hanner oed ac wir eisiau mynd i flaen y cwch lle roedd gr诺p o ddynion yn chwilio am grwbanod m么r. O'n i ddim yn cael mynd oherwydd roeddwn i'n rhy fach, oedd yn rhwystredig dros ben! Nid yw'r rhwystredigaeth o fod yn rhy fach wedi newid!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mae tiroedd Hafod yn gorfod bod fy hoff le yng Nghymru. Nid yw Hafod yn bell o le ces i fy magu yn Ffair Rhos yng Ngheredigion, felly mae'n teimlo fel cartref i mi ac mae'n le gogoneddus gyda hanes trist, iasol y gallwch chi ei theimlo o'r tir yn fawr iawn.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn 'neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?
Dawnsio'r hwla ar y llwyfan yng Ng诺yl Werin Amwythig yn ddiweddar gyda Pendevig. Roedd yn eiliad o wiriondeb llwyr heb ei gynllunio ond mae bob amser yn gwneud i mi wenu wrth feddwl amdano, fel y mae'r gig epig honno yn ei gyfanrwydd yn gwneud hefyd!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cwpl o flynyddoedd yn 么l, penderfynais y byddai'n syniad da cael photoshoot ar fy ngheffyl gyda fy nhelyn. Mae fy ngheffyl yn cael ei gadw yng Nghanolfan Farchogaeth Rheidol ac roedd yn digwydd bod yn brynhawn Sadwrn prysur.
Wnes i wisgo lan a rhoi colur ymlaen, a mynd 芒 fo allan yn y goedwig. Mi es i ar ei gefn, yna pasiwyd y delyn i fyny ataf, a dychrynodd e'n llwyr. Roedd yn rhaid i mi daflu'r delyn ar y llawr cyn syrthio ar fy wyneb yn y mwd fy hun, ac yna fe drodd y ceffyl ar ei sawdl a charlamu i ffwrdd. Dwi'n cofio'n eglur iawn gwneud walk of shame i ddod o hyd i fy ngheffyl yn 么l ar yr iard gyda chynulleidfa o gwsmeriaid y Rheidol!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Y tro diwethaf i mi ollwng deigryn, dim ond oherwydd fy mod i wedi fy llethu gan b诺er cerddoriaeth, oedd ar 么l gig wnes i yn Galeri yng Nghaernarfon yn ddiweddar lle chwaraeodd Patrick Rimes unawd pibau i aelod o'r gynulleidfa 芒 nam ar ei glyw a oedd eisiau dawnsio. Dwi'n credu roedd pawb a oedd yno'n teimlo llawenydd pur. Roedd hi'n foment mor bur, hyfryd sydd wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig yw cerddoriaeth.
O archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Tanbaid, bach, pengoch.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Syrthio i gysgu yn ystod ffilmiau. Fel rheol, dwi'n para tua 10 munud.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Byddai'n anodd cael noson well na'r noson y gwnaeth Calan berfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 大象传媒 a Chorws Cenedlaethol Cymreig y 大象传媒 yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ar Ddydd G诺yl Dewi!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Rhaid i Human Traffic fod fy hoff ffilm, nid oes ffilm sy'n codi'r calon yn fwy na hynny!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Byddai fy teenage self yn flin iawn pe na bawn i'n dweud Matthew Bellamy, prif ganwr Muse. Roedd gen i obsesiwn llwyr gyda fe yn fy arddegau cynnar!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Efallai nad yw pobl yn gwybod fy mod i'n gyfrwywr sy'n arbenigo mewn cyfrwyaeth ar gyfer ffilmiau. Dwi'n gweithio i gwmni o'r enw Leather Designs (ewch i sb茂o ar Instagram) ac rydyn ni wedi gwneud arfwisg ceffylau ar gyfer nifer o ffilmiau mawr fel Star Wars, Wonder Woman a Mary Queen of Scots.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Byddwn i'n mynd i weld fy chwaer Judith, coginio cinio rost mawr iddi hi, gwneud coctels a gwylio cyfres gyfan. Perffaith!
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Ni alla'i ddisgrifio pa mor annwyl oedd y bod bach blewog hon i mi ac rwy'n gweld ei heisiau gymaint. Roedd hi'n rhan o fy mywyd o 4 oed, a hyd yn oed ar 么l i mi adael cartref a ddim wedi ei gweld hi am efallai 6 mis ar y tro, roedd hi'n gwybod mai fi oedd ei bod dynol hi. Duw, dyn ni ddim yn haeddu anifeiliaid!
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Byddwn i'n falch o fod yn Jimi Hendrix ym 1970 yng Ng诺yl Ynys Wyth pan berfformiodd i un o'r gynulleidfaoedd mwyaf a gofnodwyd o 600,000 - 700,000 o bobl!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Sam Petersen.