Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Annog pobl i siarad am iechyd meddwl a pheidio 'bod ofn'
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae dynes wnaeth geisio lladd ei hun naw mlynedd yn 么l yn dweud bod derbyn cymorth iechyd meddwl cynnar yn hollbwysig wrth wella.
Fe brofodd Tamara Louise Roberts, 27, sy'n wreiddiol o Gapel Garmon, Sir Conwy, gyfnod o iechyd meddwl gwael yn ei harddegau hwyr, wnaeth arwain at iddi fynd i uned iechyd meddwl Hergest ym Mangor.
Daw ei sylwadau ar drothwy diwrnod iechyd meddwl y byd, sy'n cael ei gynnal ar 10 Hydref.
Yn 么l Samariaid Cymru mae 300-350 o bobl yn lladd eu hunain bob blwyddyn yng Nghymru, ac maen nhw bellach yn galw ar sefydliadau i gydnabod r么l anghydraddoldeb cymdeithasol, all arwain at hynny.
'Croesi'r ffin'
Er bod naw mlynedd wedi mynd heibio ers i Tamara dreulio cyfnod yn uned iechyd meddwl Hergest ar 么l ceisio lladd ei hun yn 19 oed, mae'n dweud bod y cyfnod yn dal yn fyw yn ei chof.
"Pan o'n i'n 18 na'th fy ffrindiau i gyd basio i fynd i'r brifysgol a nes i ddim, ac o'n i'n teimlo fel 'mod i wedi gadael fy nheulu lawr a fy ffrindiau a phawb na'th fy helpu dros y blynyddoedd efo fy dyslecsia," meddai.
"Pan ddaru nhw fynd ffwrdd o'n i'n teimlo fel fy mod i'n failure."
Wrth i ffrindiau a chariad Tamara adael i fynd am y brifysgol fe aeth hithau i astudio mewn coleg cyfagos, ond fe brofodd hi'n anodd gwneud ffrindiau, a phrin iawn oedd y cyfleoedd i siarad Cymraeg, meddai.
"O'n i'n teimlo'n isolated ac yn unig gan fy mod i'n dod o gymuned eithaf bach," meddai.
Yn ystod y cyfnod yma fe sylwodd teulu Tamara ei bod hi wedi colli lot o bwysau, ac wrth i'w ffrindiau fynd yn 么l i'r brifysgol wedi cyfnod y Nadolig, mae'n dweud mai dyma'r pwynt lle gwnaeth hi "groesi'r ffin", ac iddi dorri lawr ar 6 Chwefror 2013 a dechrau brifo ei hun a cheisio lladd ei hun.
"Ar 么l bod 'n么l a 'mlaen o'r doctors ges i therapi ac na'th hynny arwain atai yn mynd i Hergest am wythnos."
Cafodd ei gyrru adref ar ddiwedd yr wythnos, a'r wythnos ganlynol a hithau n么l adref fe benderfynodd Tamara nad oedd hi am fyw rhagor.
"Dwi'n cofio mynd i gysgu a deffro a theimlo'n rili s芒l ac wedyn 'naeth mam alw ambiwlans ac es i'n 么l i Hergest."
Yn 么l Tamara dyma oedd dechrau taith newydd wrth geisio gwella, ac fe dderbyniodd feddyginiaeth i fynd i'r afael 芒'i theimladau o iselder, therapi, a gweithiwr achos.
"Yn ara' deg nes i gychwyn deall fod pobl yn fy ngharu i, oherwydd am y pum wythnos o'n i mewn yn Hergest daeth rhywun i weld fi pob diwrnod ac o'dd o'n dangos faint o'n i'n meddwl i fy ffrindiau a fy nheulu."
Dros y naw mlynedd diwethaf mae Tamara wedi dod i ddeall yr hyn sy'n achosi iddi deimlo'n isel a sut mae'n bosib rhoi mesurau yn eu lle i helpu iddi ymdopi.
Er y cymorth gafodd hi gan y gymuned a rhai arbenigwyr, mae hi'n dweud bod cael mynediad at gymorth iechyd meddwl yn dal i fod yn anodd, ac i nifer bod y rhwystrau hynny'n peryglu eu bywydau.
"Ges i ddim cymorth proffesiynol tan nes i fynd dros y ffin," meddai.
"Y bobl sydd ddim wedi cael diagnosis, y rhai hynny sydd wedi gorffen eu bywydau yn gynnar oherwydd dy'n nhw heb gael y cymorth... dwi ddim yn meddwl fod 'na ddigon o gymorth."
'Siaradwch am sut 'da chi'n teimlo'
Yn 么l elusen Mind Cymru mae ystadegau'n dangos fod problemau iechyd meddwl wedi dod yn fwy amlwg dros gyfnod y pandemig gyda 63% o bobl a gafodd eu holi yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi dirywio ers Mawrth y llynedd.
Wrth nodi Diwrnod Iechyd Meddwl Rhyngwladol ar 10 Hydref, mae Samariaid Cymru hefyd yn dweud ei bod hi'n bwysig cydnabod r么l anghyfartaledd cymdeithasol wrth drafod problemau iechyd meddwl.
Dywedodd Margaret, gwirfoddolwr gyda Samariaid Cymru, ei bod yn amlwg fod pobl yn "poeni dipyn ac yn becso am y dyfodol".
"Yr hyn sy'n taro fi ydy'r anghyfartaledd rhwng pobl ac mae hynna'n lledaenu," meddai.
"Mae'r problemau mawr sydd gyda phobl yngl欧n ag iechyd meddwl yn amlwg yn y feddyginiaeth maen nhw'n derbyn a'r sylw wedyn."
Ychwanegodd Margaret fod anghyfartaledd ariannol hefyd yn ffactor amlwg, gyda nifer yn ddi-waith a nifer yn dod oddi ar y cynllun ffyrlo.
"I nifer mae'n galed a dy'n nhw ddim yn gwybod lle i droi, ond dyna pan ni 'ma."
Mae ystadegau gan Mind Cymru yn dangos mai pobl sy'n derbyn budd-daliadau sydd fwyaf tebygol o brofi problemau iechyd meddwl.
Yn 么l arolwg mae dros hanner (59%) y bobl sy'n derbyn budd-daliadau yn dweud bod eu cyflwr iechyd meddwl yn wael neu yn wael iawn.
Wrth nodi'r diwrnod mae Tamara yn dweud mai'r cam cyntaf yw'r anoddaf ond mae hi'n annog unrhyw un sy'n teimlo'n isel i siarad.
"Siarad, jest siaradwch am sut 'da chi'n teimlo a pheidiwch 芒 bod ofn.
"Mae o'n bwysig - 'da chi yn bwysig. Peidiwch 芒 theimlo eich bod chi'n wast o amser oherwydd 'da chi ddim."
Buddsoddi 拢42m eleni
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru maen nhw'n buddsoddi 拢42m eleni mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
"Rydym yn estyn ein cefnogaeth i unigolion sydd eisiau cymorth iechyd meddwl ar lefel isel drwy ehangu cefnogaeth arlein, therapi ymddygiad sydd hefyd yn cynnig cymorth am broblemau ariannol," meddai.
"Mae unigolion sydd 芒 phroblemau iechyd meddwl angen amrediad o gymorth."
Am ragor o gymorth iechyd meddwl mae rhagor o wybodaeth ar wefan 大象传媒 Action Line.