Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canllawiau Covid yn 'methu ysgolion', medd undebau
Mae'r system newydd i ddelio gydag achosion Covid yn yr ystafell ddosbarth yn "methu ysgolion", yn 么l undeb addysg.
Roedd dros 10,000 o achosion ymysg disgyblion a staff yn ysgolion Cymru fis Medi.
Gofynnodd Laura Doel o NAHT Cymru i Lywodraeth Cymru: "Pa mor ddrwg sy'n rhaid i bethau fod cyn i chi weithredu?"
Dywedodd y Gweinidog Addysg fod y llywodraeth yn ceisio cael cydbwysedd rhwng effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol Covid.
Yn siarad ar raglen 大象传媒 Politics Wales dywedodd Jeremy Miles: "Mae popeth ry'n ni'n gwybod yn dweud wrthym, yn gyffredinol, ar gyfer plant oed ysgol mae niwed o beidio bod yn yr ysgol yn llawer mwy sylweddol.
"Mae rhai o'n hysgolion yn wynebu pwysau sylweddol iawn ar y funud.
"Mae pob un o'r absenoldebau hynny yn bryder, ac roeddwn i yn eglur iawn pan ddes i yn weinidog addysg fy mod eisiau lleihau nifer yr absenoldebau mewn ysgolion.
"Does gennym ni ddim y system ble mae blynyddoedd neu ddosbarthiadau llawn yn cael eu gyrru adref hyd yn oed pan nad ydy disgyblion wedi bod mewn cysylltiad 芒'i gilydd.
"Mae gennym ni fframwaith mewn lle ym mhob rhan o Gymru ac mae modd ymateb i amgylchiadau lleol."
Ychwanegodd fod wyth o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi newid eu canllawiau er mwyn ymateb i'r amgylchiadau yno.
Ond yn dilyn cyfarfod ddydd Iau mae undebau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau ei hymateb i ddiogelwch Covid mewn ysgolion.
Dywedodd Savanah Taj o TUC Cymru fod staff yn "ofnus, wedi'u gorweithio ac wedi blino".
"Mae angen i Lywodraeth Cymru wrando arnyn nhw a chydnabod mai nhw yw'r arbenigwyr ar yr hyn sy'n digwydd mewn ysgolion," meddai.
Ychwanegodd Ms Doel o NAHT Cymru: "Mae gweld arweinwyr ysgolion mor emosiynol tra'n rhannu eu profiadau o'r sefyllfa mewn ysgolion ar hyn o bryd yn dorcalonnus.
"Pan mae gennych chi 10,000 o achosion Covid mewn ysgolion ym mis Medi yn unig, pan mae gennych chi astudiaethau sy'n dweud y bydd un o bob saith plentyn sy'n cael Covid yn datblygu Covid hir, pan mae gennych chi athrawon sy'n gorfod dysgu plant yn y dosbarth ac ar-lein, pan mae gennych chi brifathrawon yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth, mae'n rhaid gofyn i Lywodraeth Cymru: 'Pa mor ddrwg sy'n rhaid i bethau fod cyn i chi weithredu?'"
Synwyryddion CO2 'wythnos nesaf'
Mae'r undebau yn galw am adolygu'r system bresennol a chael canllawiau clir am y defnydd o synwyryddion CO2 i helpu athrawon awyru ystafelloedd yn gywir.
Cyhoeddodd y llywodraeth ar ddiwedd Awst y byddai'n ariannu 30,000 o'r synwyryddion CO2 - sy'n datgelu faint o awyr iach sydd mewn ystafelloedd.
Pan ofynnwyd iddo faint o'r rheiny oedd wedi cael eu dosbarthu, dywedodd Mr Miles fod oedi i'r gadwyn gyflenwi yn golygu na fyddan nhw ar gael nes yr wythnos nesaf.
"Bydd canllawiau yn mynd i ysgolion yr wythnos nesaf i'w helpu defnyddio'r synwyryddion a deall pryd fo angen gwell awyru," meddai.