Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dathlu pen-blwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn 70 oed
- Awdur, Llyr Edwards
- Swydd, Gohebydd ´óÏó´«Ã½ Cymru
Mae dathliadau'n cael eu cynnal ddydd Llun i nodi pen-blwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn 70 oed.
Mae aelodau staff wedi bod yn cario baton arbennig o ogledd y parc cenedlaethol yn ardal Conwy i lawr i Aberdyfi.
Dywedodd un, Gwen Aeron, bod y baton wedi cael ei gario "ar droed, ar ddwy olwyn a dros ddŵr hefyd".
Mae'r daith yn yn darfod yn Aberdyfi ble bydd yna ddathliad i nodi'r garreg filltir.
Bob blwyddyn mae miloedd lawer yn ymweld â'r parc cenedlaethol - y cyntaf yng Nghymru a'r trydydd yn unig drwy'r DU.
Ond doedd pawb ddim yn hapus pan ddaeth y statws i rym ar 18 Hydref 1951.
Roedd Sam Roberts yn warden ar y parc am 37 o flynyddoedd cyn ymddeol dros ddeng mlynedd yn ôl.
"Doedd y ffarmwrs ddim yn hapus o gwbl," meddai.
"Roedd eu tir nhw oedd yn mynd i fod yn genedlaethol - felly roedd hi'n job perswadio nhw na doedd y tir ddim yn cael ei national-eiddio - mai nhw oedd dal bia'r tir.
"Oeddan ni yma i helpu nhw ac i groesawu pobl ddŵad ond oeddan nhw'n dweud, 'dan ni wedi croesawu pobl erioed - be di'r mater rŵan?'.
"Dyna oedd y sialens, i berswadio ffermwyr y bydd o o les, a mi ddoth y rhan fwyaf i gytuno."
Roedd 'na brysurdeb eithriadol o gwmpas Yr Wyddfa yn ystod y pandemig Covid wedi i gyfyngiadau teithio gael eu llacio. Heidiodd pobl i'r ardal gan greu problemau parcio difrifol.
Sut orau i reoli twristiaeth yw un o'r cwestiynau mawr at y dyfodol, felly.
"Mae'r angen a oedd 70 mlynedd yn ôl dal yma," meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
"Mae pobl isio awyr iach… [mae] pobl isio llefydd agored - 'dan ni wedi gweld hynny mewn niferoedd mawr ac mae hynny wedi creu problemau.
"Mae 75% o boblogaeth Cymru yn ymweld ag o leia' un parc bob blwyddyn a mae 95% o'r boblogaeth yn meddwl bod nhw'n bwysig.
"Mae'r cyfnod wedi dangos hynny ond hefyd mae o wedi dangos bod 'na broblemau a materion isio eu datrys, sydd yn cynnwys sut i ddatblygu twristiaeth yn y dyfodol."