Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ystyried ymestyn defnydd pasys Covid yng Nghymru
Mae disgwyl i weinidogion Cymru ystyried a ddylid ymestyn y defnydd gorfodol o basys Covid i fwy o leoliadau.
Dywedodd y gweinidog iechyd y byddai'r llywodraeth yn "meddwl am" y newid oherwydd eu bod yn "hynod" bryderus am y lefelau uchel o drosglwyddo Covid-19.
Bythefnos yn 么l cafodd pasys Covid gorfodol eu cyflwyno i bobl sydd am fynd i ddigwyddiadau mawr neu glybiau nos.
Nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gweld cyfyngiadau pellach, ond dywedodd Plaid Cymru fod angen i'r rheolau dynhau wrth "fynd i mewn i'r gaeaf."
Cyfradd achosion Covid-19 Cymru yw'r uchaf o holl genhedloedd y DU ac un o'r uchaf yn y byd.
Ddydd Sul, cyhoeddwyd bod y gyfradd achosion am bob 100,000 o bobl yng Nghymru dros saith diwrnod wedi codi i 716.9 - y ffigwr uchaf ers dechrau'r pandemig.
Wrth siarad ar raglen 大象传媒 Politics Wales, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AS, fod y lefelau uchel o drosglwyddo yn rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.
Mae mwy a mwy o bobl yn gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith, meddai, gan gynnwys staff y gwasanaeth iechyd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu rheolau Covid-19 yn ystod yr wythnos ac yn gwneud cyhoeddiad ddydd Gwener.
Dywedodd Ms Morgan y byddai gweinidogion yn edrych i "weld sut y gallwn ni wneud y gorau o'r mesurau sydd gennym eisoes ar waith".
Ychwanegodd: "A oes mwy y gallwn ei wneud, er enghraifft, o gwmpas gweithio gartref... a oes mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod pobl mewn gwirionedd yn gwisgo eu gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus y tu mewn, a byddwn yn gweld os bydd angen cyflwyno'r [pasys Covid] i sefyllfaoedd eraill."
Beth ydy p脿s Covid?
Mae pasys Covid yn dangos bod pobl naill ai wedi profi'n negyddol ar brawf llif unffordd (lateral flow), neu wedi eu brechu'n llawn yn erbyn Covid.
Maen nhw hefyd yn dangos os yw rhywun wedi cael prawf positif yn ystod y chwe mis diwethaf ac wedi hunan-ynysu yn sgil hynny.
Maen nhw'n orfodol i unrhyw un dros 18 oed sydd am fynd i'r canlynol:
- Clybiau nos neu leoliadau tebyg
- Digwyddiadau dim seddi dan do gyda mwy na 500 o bobl
- Digwyddiadau awyr agored dim seddi gyda mwy na 4,000 o bobl
- Unrhyw ddigwyddiad gyda mwy na 10,000 o bobl, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dechrau ar gyflwyno'r rhaglen atgyfnerthu brechlyn (booster), gyda 61% o staff y GIG a 58.1% o weithwyr cartrefi gofal wedi derbyn trydydd pigiad.
Dywedodd y gweinidog iechyd fod y broses atgyfnerthu yn "mynd yn unol 芒'r amserlen ond rydyn ni'n gweld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i gynyddu'r cyflymder".
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: "Alla i ddim gorbwysleisio pa mor bryderus ydw i am y cyfraddau achosion uchel yr ydym yn eu gweld yng Nghymru ar hyn o bryd.
"'Nes i feirniadu'r llywodraeth yr wythnos diwethaf am ddweud bod y sefyllfa'n sefydlog; mae'r rhain yn niferoedd achosion ofnadwy o uchel ac mae angen i ni sicrhau bod popeth posib yn cael ei wneud i dynhau pethau wrth fynd i mewn i'r gaeaf.
"Dydw i ddim yn siarad am gyfnodau clo ar raddfa eang, does neb eisiau hynny, ond mae angen i ni fod yn edrych ar unrhyw beth y gellir ei wneud o fewn ysgolion wrth awyru, wrth gyflwyno monitor CO2 ac ar wisgo masgiau."
Dywedodd Russell George AS, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig: "Nid ydym am fod mewn man lle rydym yn siarad am gyfyngiadau pellach ar ein bywydau.
"Rwy'n credu bod angen i ni nawr fod mewn sefyllfa lle mae angen i ni i gyd fod yn meddwl am gadw'n hunain yn ddiogel a defnyddio mesurau synhwyrol."