Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Siom i berchnogion Wrecsam yn eu g锚m fyw gyntaf
Fe gafodd cefnogwyr Wrecsam a deithiodd i Maidenhead i weld eu t卯m yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr nos Fawrth dipyn o syndod i weld pwy oedd ar y teras gyda nhw.
Roedd perchnogion newydd y clwb, yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, wedi teithio i weld y clwb yn fyw am y tro cyntaf.
Siom gafodd y cefnogwyr a'r perchnogion newydd gyda pherfformiad y t卯m serch hynny.
Fe gollodd Wrecsam o 3-2 gan chwarae am dros hanner y g锚m gyda 10 dyn.
Er i bresenoldeb Reynolds a McElhenney greu cynnwrf yn y dorf o ryw 1,600, roedd digon o gyffro ar y cae hefyd.
Roedd Kane Ferdinand a Jay Mingi eisoes wedi rhoi Maidenhead ddwy ar y blaen pan welodd Bryce Hosannah gerdyn goch am dacl fl锚r iawn wedi dim ond 31 munud.
Er hynny fe lwyddodd Paul Mullin gael g么l yn 么l i Wrecsam cyn yr egwyl i gwtogi'r fantais.
Yn fuan wedi'r egwyl fe wnaeth Jordan Davies sgorio g么l i ddod 芒 Wrecsam yn gyfartal 2-2.
Ond chwalwyd eu gobeithion o'r newydd pan lwyddodd Josh Kelly i gipio mantais y t卯m cartref yn 么l gyda 15 munud yn weddill.