Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Penderfyniadau anodd' ar adfywio trefi arfordirol
Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd yngl欧n 芒 sut i adfywio trefi arfordirol sydd mewn perygl o lifogydd, meddai gweinidog Llywodraeth Cymru.
Mae mapiau llifogydd yn rhagweld y bydd ardaloedd ar hyd arfordir gogledd a de Cymru o dan dd诺r o fewn degawdau, yn 么l Dirprwy Weinidog Hinsawdd Lee Waters.
Dywedodd Mr Waters wrth raglen Sunday Supplement Radio Wales fod llunwyr polisi yn wynebu penderfyniadau anodd.
Roedd yn siarad ar ddiwrnod cyntaf uwch-gynhadledd COP26 ar newid hinsawdd yn Glasgow.
"Rydyn ni eisiau adfywio canol trefi. Mae cryn dipyn o'n canol trefi ar orlifdiroedd," meddai Mr Waters.
"Ydyn ni'n caniat谩u datblygu yn y fan honno? Ar y naill law [mae hynny] yn delio 芒'r materion o'n blaenau o ddirywio canol trefi, ond ai dyna'r peth anghywir i'w wneud?
"Mae'r rhain yn ddewisiadau anodd iawn."
Tynnodd sylw at ragolygon gan fapiau llifogydd Adnoddau Cenedlaethol Cymru y byddai ardaloedd poblog ar hyd arfordir gogledd a de Cymru o dan dd诺r mewn 30 neu 40 mlynedd.