Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwynedd yn trafod safleoedd parcio dros nos i gerbydau
Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried sefydlu safleoedd ble bydd carafanau a cherbydau gwersylla yn cael parcio ac aros dros nos.
Daw hynny yn dilyn prysurdeb mawr dros yr haf eleni a llynedd, pan welwyd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl oedd yn dod ar wyliau i Gymru yn hytrach na mynd dramor oherwydd Covid.
Fe arweiniodd hynny at achosion o bobl yn aros dros nos yn eu cerbydau gwersylla mewn meysydd parcio ble nad oedd hawl ganddyn nhw i wneud, a phroblemau sbwriel yn codi o hynny.
Mae'r cyngor nawr eisiau gwario 拢100,000 ar sefydlu chwe safle mewn meysydd parcio presennol, tebyg i 'aires' sy'n cael eu canfod mewn gwledydd fel Ffrainc.
Mae 'aires' yn safleoedd gwersylla sydd ond yn cynnig cyfleusterau sylfaenol, fel d诺r a lle i gael gwared ar garthion, ac felly yn rhatach fel arfer na safleoedd gwersylla arferol.
Yn 么l adroddiad y cyngor, roedd gwersylloedd carafanau presennol y sir yn hynod o brysur yn ystod 2020 a 2021, ac felly byddai'r safleoedd newydd yn lleihau'r pwysau arnynt yn ogystal 芒 lleihau faint o wastraff a sbwriel sy'n cael ei adael.
Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am ddatblygiad economaidd, y byddai'r safleoedd newydd hefyd yn golygu bod ymwelwyr yn aros yn agos i drefi neu bentrefi, ac felly'n fwy tebygol o gyfrannu'n ariannol i fusnesau lleol.
"Mae nifer uchel y bobl sydd wedi bod yn ymweld wedi bod yn destun pryder mewn rhai ardaloedd, gyda rhai yn aros mewn cerbydau gwersylla mewn llefydd lle does dim caniat芒d i gysgu yno dros nos," meddai.
"Dyna pam rydyn ni'n awyddus i ystyried camau allai wella rheolaeth yn y maes yma."
Daw'r cynnig yn dilyn pryderon fod rhai ymwelwyr wedi bod yn "parcio ble bynnag maen nhw eisiau" mewn rhannau o Wynedd, gan gynnwys mewn llefydd anaddas a pheryglus.
"Rydyn ni wedi gweld hyd at 15 o'r cerbydau yma rai nosweithiau yn parcio mewn llefydd anghysbell sydd heb gyfleusterau priodol o gwbl," meddai'r Cynghorydd Simon Glyn wrth drafod y mater mewn cyfarfod y llynedd.
Ond fe wnaeth arolwg o berchnogion cerbydau gwersylla ganfod y byddai dros 92% ohonynt yn defnyddio safleoedd tebyg i 'aires' petaen nhw ar gael.
Petai'r cynllun un cael ei gymeradwyo byddai disgwyl i'r cyfnod cynllunio ddechrau ym mis Chwefror 2022, gyda'r safleoedd cyntaf yn agor erbyn gwanwyn 2023.