大象传媒

Rygbi merched Cymru: "Cam i'r cyfeiriad cywir"

  • Cyhoeddwyd
dyddgu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Dyddgu Hywel 31 o gapiau dros Gymru rhwng 2013 ac 2019

Daeth cyhoeddiad gan Undeb Rygbi Cymru ar 3 Tachwedd y bydd aelodau o garfan genedlaethol merched Cymru'n arwyddo cytundebau proffesiynol - y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn hanes y g锚m yng Nghymru.

Mae 2021 wedi bod yn siomedig hyd yn hyn i ferched Cymru, gan ddod yn olaf yn fformat dros dro ar gyfer y Chwe Gwlad - colli'n drwm yn erbyn Ffrainc (53-0) ac Iwerddon (45-0) cyn colli yn erbyn Yr Alban (27-20).

Ddydd Sul 7 Tachwedd bydd t卯m rygbi merched Cymru'n dechrau eu hymgyrch cyfres yr Hydref, gan wynebu Japan ar Barc yr Arfau, Caerdydd, yna De Affrica a Chanada cyn diwedd y mis.

Felly beth yw sefyllfa g锚m y merched yng Nghymru? A pha effaith fydd y cytundebau proffesiynol yn ei gael ar y g锚m yma yn y dyfodol? Cyn-gefnwr Cymru, Dyddgu Hywel, sydd yn rhannu ei barn.

'Anghysondeb'

Gyda'r newyddion hynod gyffrous yma, mae rygbi merched yng Nghymru yn edrych ychydig yn fwy addawol i'r chwaraewyr ifanc o'r diwedd. Mae'r Undeb wedi cyhoeddi 10 cytundeb proffesiynol llawn amser, a 15 cytundeb retainer i ddechrau ar 1 Ionawr 2022. Bydd rhain yn gytundebau 12 mis.

Mae rygbi merched yng Nghymru wedi dioddef yn ddiweddar, gydag anghysondeb o fewn y timau rheoli a hyfforddi, dim rhaglenni cadarn a dim strwythur i ddatblygu chwaraewyr ar gyfer y lefel rhyngwladol. Mae'n bwysig cael cysondeb mewn sgwad yn ogystal ag awyrgylch diogel a hapus i gael y gorau allan o'r chwaraewyr.

Problem arall sydd wedi wynebu merched Cymru yn y blynyddoedd diwethaf yw'r diffyg llwybrau ar gyfer y merched ifanc sy'n chwarae rygbi. Dim clybiau cystadleuol, dim rhanbarthau a dim cyfleoedd i oedrannau dan 18 neu dan 20.

Yn 么l y cyhoeddiad gan yr Undeb, mae hyn hefyd yn cael ei ddatblygu, a bydd rhaglenni dan 18 a dan 20 ar gael ar gyfer merched Cymru yn fuan iawn i hyfforddi ac annog talent a pharatoi chwaraewyr ar gyfer y llwyfan rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dyddgu hefyd wedi cynrychioli'r Barbariaid yn erbyn Cymru - 30 Tachwedd 2019

'Calonogol'

Mae'n gam i'r cyfeiriad cywir gyda'r cytundebau fydd yn cynnig ffioedd i'r merched am yr holl ymrwymiad - mae'n galonogol gweld yr Undeb yn buddsoddi yn g锚m y merched.

Peidiwch 芒 meddwl am eiliad y bydd cyflogau'r merched yn agos i'r dynion, neu'n agos i gyflogau timau merched Lloegr, Seland Newydd a Ffrainc.

Ond bydd cyfle yma i 10 chwaraewr ganolbwyntio ar rygbi, gyda'r gefnogaeth a'r adnoddau cywir i ddatblygu'r sgwad at Gwpan Rygbi'r Byd sydd yn Seland Newydd mewn llai na 12 mis.

'Cyfres hynod gyffrous'

Dros y tair wythnos nesaf bydd Cymru yn chwarae Japan, De Affrica a Canada yng nghyfres yr Hydref.

Mi fydd hi'n gyfres hynod gyffrous. Mae Cymru yn 11eg ar restr y Rugby World Rankings ar hyn o bryd. Mae Japan yn 12fed, De Affrica yn dilyn tu 么l yn y 13eg safle, ac mi fydd hi'n dipyn o g锚m yn erbyn cewri Canada sy'n 3ydd ar restr detholion y byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jasmin Joyce, asgellwr Cymru a Bristol Bears

Wrth edrych ymlaen at y gemau dwi wir yn gobeithio bydd y sgwad wedi troi cornel, yn anghofio am y gorffennol ac edrych ymlaen am y flwyddyn gyffrous o'u blaenau.

Mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn. Dwi'n hyderus bydd Cymru yn curo Japan, mi fydd hi'n g锚m agos iawn rhwng De Affrica, ac mi fydd angen dipyn o berfformiad i drechu Canada.

O'r diwedd, mae pethau yn edrych yn well i d卯m merched rygbi Cymru a gobeithio y bydd hyn hefyd yn dwyn ffrwyth yn ystod y gemau nesaf.

Hefyd o ddiddordeb: