Pump tip i deuluoedd fyw'n fwy gwyrdd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Rydym wedi bod yn clywed tipyn o sôn am ddyfodol ein planed dros y cyfnod diwethaf yn sgil cynhadledd COP26. A gyda'r argyfwng newid hinsawdd yn peri cryn ofid i nifer, mae'r anhwylder eco-bryder ar gynnydd.

Ond er ei bod hi'n gallu teimlo fel bod y pŵer i newid y darlun yn gorwedd yn nwylo'r gwleidyddion, mae 'na bethau y gall pob cartref eu gwneud i helpu'r sefyllfa.

Yma ar ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw, rydym wedi crynhoi pump tip syml y gall teuluoedd ystyried eu mabwysiadu er mwyn byw'n wyrddach:

Prynu'n ail law a gwerthu ymlaen ar-lein

Yn ôl un sydd wedi bod yn prynu a gwerthu ar-lein am dros ugain mlynedd, mae buddion economaidd personol yn ogystal â rhai amgylcheddol wrth brynu a gwerthu nwyddau o'r cartref ar-lein.

"Nos Sul yw'r amser gorau i roi pethau fyny ar eBay," meddai Teleri James Jones yn argyhoeddedig wrth siarad ar Gwneud Bywyd yn Haws ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.

"Ar Facebook wedyn, mae'r amseroedd ychydig bach yn wahanol. Dwi'n dueddol o roi pethau ar Marketplace ar ddiwedd yr wythnos; mae'n rhoi amser i'r person feddwl os oes amser gyda nhw i ddod i'w gasglu dros y penwythnos.

Ffynhonnell y llun, filadendron

"Mae Sphock a Vinted yn dueddol o werthu dillad a'ch accessories a handbags," meddai. "Mae Depop yn groesiad o siop ddillad a Instagram gyda lot o ddillad o'r 80au a'r 90au yn cael eu rhestru yna."

Mae hi hefyd yn defnyddio Freecycle i waredu nwyddau am ddim, ac ar Gumtreea Nextdoor gallwch werthu bron â bod unrhywbeth. Yn wir, mae platfform ar gyfer popeth!

Os oes eitemau trydanol gennych fel ffonau symudol, cyfrifiaduron neu gryno ddisgiau ac ati, cyngor Teleri yw i ddefnyddio gwefannau penodol. "Mae'n werth edrych mewn i Music Magpie," meddai "achos maen nhw'n ailgylchu lot o'r eitemau yma, fel y batris lithium sydd yn y peiriannau."

Diffodd goleuadau a switsys

Ffynhonnell y llun, Catherine Falls Commercial

Rhywbeth bach y gallwn oll ei wneud ydy diffodd goleuadau a pheiriannau o amgylch y tÅ·.

Yn ôl The Energy Saving Trust, petai pob tŷ yn y Deyrnas Unedig yn gwneud hynny, byddai'n arbediad ariannol o £960 miliwn a 1,480 miliwn tunnell o allyriadau carbon y flwyddyn!

Weips a chlytiau aml-ddefnydd!

Os oes plant bach gennych, byddwch chi'n gwybod nad ydy'r weips yna fyth yn bell o'ch gafael! Am gyfnewidiad eco hawdd, beth am ddefnyddio gwlanen neu gadach y mae modd eu hail-ddefnyddio yn hytrach na rhai un-defnydd?

Nid dim ond ar gyfer plant yw hyn - mae modd gwneud y newid hefyd wrth ofalu am y croen neu dynnu colur.

Ffynhonnell y llun, Crystal Bolin Photography

Os ydy clytiau yn stapl yn eich tÅ· chi, wel, dydy hi fyth yn rhy hwyr i drio rhai aml-ddefnydd! Dyma oedd testun sgwrs rhwng Dr Angharad Wyn ac Elliw Gwawr ar Gwneud Bywyd yn Haws wrth iddyn nhw drafod eu penderfyniad i wneud y newid gyda'u babanod.

I'r ddwy, gwneud y penderfyniad oedd y peth anoddaf am y broses. Eglurodd Elliw: "Nes i ffeindio llyfrgell glytiau yn lleol a menthyg bag o glytiau gwahanol ganddyn nhw fel fy mod i ddim yn gorfod buddsoddi yn y lle cyntaf, jyst er mwyn i fi allu arbrofi a ddim teimlo fel fy mod i'n gorfod buddsoddi ac ymrwymo iddo fo yn llwyr, ond jyst gwneud beth roeddwn i'n teimlo fy mod i'n gallu yn y misoedd cyntaf yna."

Ac i glymu gyda tip rhif 1, mae modd gwerthu'r clytiau ymlaen gan olygu nad dim ond un teulu y byddant yn medru eu gwasanaethu. "Nes i brynu ychydig yn ail law ac ro'n nhw fel newydd," medd Dr Angharad. "'Sai'n teimlo'n embarrassed yn dweud fy mod wedi prynu cewyn aml-ddefnydd yn ail law."

Ailgylchu Nwyddau Meddygol

Ffynhonnell y llun, Peter Dazeley

Mae gan bob cartref wastraff meddygol, hyd yn oed os mai dim ond pecyn o paracetemols yw hynny, ac mae nifer o fferyllfeydd yn derbyn eitemau meddygol er mwyn eu hailgylchu.

"Gyda phecynnau tabledi, er enghraifft, yn amlwg gall y bocs cardfwrdd fynd i'r ailgylchu," esbonia Dr Angharad, "ond gall y pecyn tu fewn - y blister packs lle mae'r tabled yn dod alla ohono - gall rheina hefyd fynd nôl i ambell fferyllfa i drefnu eu bod nhw'n cael eu hailgylchu neu'n cael eu defnyddio mewn dull gwahanol."

Mae'r rhestr hefyd yn cynnwys inhalers ar gyfer clefydau fel Asthma. Holwch yn lleol i weld beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Her y Mis!

Ffynhonnell y llun, Dougal Waters

Fel gyda phopeth, ar y dechrau mae gwneud newidiadau yn gallu bod yn anodd, ond unwaith i rywbeth ddod yn 'arfer', mae'n cymryd llai o waith meddwl ac o ganlyniad, mae bywyd yn sicr yn haws!

Efallai eich bod chi neu'r plant yn ymateb yn dda i her, felly beth am ganolbwyntio ar un peth y mis fel teulu? Mae digon o syniadau ar gael fel her zero waste, neu brynu pethau ail-law yn unig am fis a phrynu pethau sydd heb unrhyw becynnu o'u hamgylch am fis arall… mae'r posibiliadau yn ddi-ben-draw!

Cam dros y trothwy yw hanner y daith medd yr hen ddywediad.