Pryderon bod plant yn dysgu am ryw o bornograffi

Disgrifiad o'r llun, Mae dyfeisiau digidol yn ei gwneud hi'n haws dod ar draws pornograffi
  • Awdur, Sian Elin Dafydd
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae pryderon fod plant ifanc yn dysgu am ryw o bornograffi a bod pwysau "aruthrol" ar bobl ifanc, yn 么l arbenigwyr.

Dywedodd mam anhysbys sydd wedi rhannu ei phrofiad gyda'r NSPCC ei bod wedi dod o hyd i gannoedd o negeseuon a oedd yn "rhywiol eu natur" ar ff么n ei merch 13 oed.

Yn ogystal dywedodd merch 16 oed ei bod yn poeni ei bod yn gaeth i bornograffi ar 么l iddi ddechrau gwylio'r deunydd wedi iddi gael her i'w wylio tra ym mlwyddyn 7.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod diogelwch ar-lein, cydsyniad ac iechyd rhywiol i gyd wedi'u cynnwys yn y Cod, fydd yn sail i'r cwricwlwm addysg newydd.

Mi fydd y Cod, petai'n cael ei gymeradwyo, gan y Senedd yn darparu manylion ar gyfer yr Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno yn 2022

'Pwysau i fod yn atyniadol rhywiol'

Yn 么l Dr Kate Howells, arbenigwr mewn iechyd rhyw sy'n gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae gweld deunyddiau anweddus yn hawdd.

"Un neu ddau clic i ffwrdd yn unig yw pornograffi. I'r rhai sydd mor ifanc 芒 10 neu 11, falle mai dyma yw ei profiad rhywiol cyntaf," meddai.

Mae Dr Mair Edwards, sy'n seicolegydd clinigol yn y gogledd yn dweud bod 'na bwysau "aruthrol" ar bobl ifanc yn enwedig i fod yn rhywiol ac i deimlo bod rhaid iddyn nhw fod mewn rhyw fath o berthynas.

"O ran plant cynradd, be 'dan ni'n weld, ydy bo' nhw hefyd rhywsut wedi derbyn negeseuon ynghylch bod angen bod yn rhywiol, bod angen bod yn atyniadol yn rhywiol, a hynny falle o oed cyn bo nhw'n emosiynol barod ar gyfer hynny."

Disgrifiad o'r llun, Mae 'na bwysau "aruthrol" ar bobl ifanc i fod mewn rhyw fath o berthynas, medd Dr Mair Edwards

Ychwanegodd Dr Edwards bod nifer yn dod ar draws deunydd pornagraffig yn ddamweiniol ar eu ffonau a hefyd bod plant a phobl ifanc weithiau'n gweld deunydd anweddus yn y cartref oherwydd "diffyg ffiniau".

Dywedodd hefyd bod angen addysgu plant am yr egwyddor o gydsynio a'r angen i ddysgu am barch yn "fuan iawn iawn".

Gyda chyflwyniad y cwricwlwm newydd flwyddyn nesa mi fydd yn orfodol i ysgolion Cymru ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb i blant rhwng 3 ac 16 oed.

Disgrifiad o'r llun, 'Mae 'na gyswllt rhwng yr hyn ma' plant bach yn gweld a'u hymddygiad yn nes ymlaen,' medd Heddwen Daniel

Mae Heddwen Daniel o Gymorth i Ferched Cymru wedi bod yn cydweithio gyda'r llywodraeth ar ddatblygiad y cwricwlwm newydd ers dros flwyddyn ac wedi ymateb i'r ymgynghoriad a chyflwyno argymhellion.

"Ma' addysg, cydberthynas a rhywioldeb yn rhan holl ganolog o atal trais yn erbyn menywod, nawr ac yn y dyfodol, felly mae'n bwysig iawn bod yr addysg yma o safon uchel," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn awyddus i weld cysondeb hefyd o ran yr hyn fyddai'n cael ei ddysgu mewn ysgolion.

"Baswn i'n dweud bod bendant cysylltiad rhwng yr addysg ma' pobl yn ei gael, boed hynny drwy bornograffi neu drwy weld be mae eu rhieni'n modelu neu eu hathrawon. Mae 'na bendant gyswllt rhwng yr hyn ma' plant bach yn gweld a wedyn y ffordd ma' plant yn mynd mlaen i ymddwyn a'u disgwyliadau nhw."

Dyma yw un o'r newidiadau mwyaf i addysg yng Nghymru ers degawdau ac i'r ffordd y bydd plant tair i 16 oed yn cael eu dysgu.

Mae Lynn Griffiths yn bennaeth Ysgol Gymraeg Caerffili ac fel rhan o'u gwersi mae'r plant iau eisoes yn dysgu am berthynas iach a'r rhai h欧n am ryw.

Disgrifiad o'r llun, Mae plant iau Ysgol Gymraeg Caerffili eisoes yn dysgu am berthynas iach a'r rhai h欧n am ryw, medd y pennaeth Lynn Griffiths

Yn 么l Mr Griffiths maen nhw'n pwysleisio defnydd diogel a phriodol o'r we, o gyfryngau cymdeithasol a ffonau symudol.

Yr hyn sy'n ganolog iddyn nhw fel ysgol yw bod y disgyblion yn "parchu" ei gilydd a'u hunain a'u bod nhw'n teimlo'n ddiogel bob amser.

Mae Mr Griffiths hefyd yn mynnu bod yn rhaid cydweithio gyda rhieni neu ofalwyr i sicrhau hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn credu y dylai bod hawl gan bob person ifanc i gael mynediad i wybodaeth sy'n ei cadw'n ddiogel.

"Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn helpu diogelwch a lles pob dysgwr ac yn eu helpu i ddeall mwy am berthnasau, cydsyniol, teg a phositif.

"Bydd y Cod sydd bellach wedi ei gyflwyno gerbron y Senedd, ond sydd yn disgwyl s锚l bendith, yn rhoi manylion i ysgolion ar yr hyn y dylid ei ddysgu a phryd.

"Mae diogelwch ar-lein, cydsyniad ac iechyd rhyw wedi'u cynnwys yn y Cod ac i'w cyflwyno ar adegau priodol yn natblygiad plentyn.

"Mae'n seiliedig ar adborth o nifer o ffynonellau - gan gynnwys athrawon, rhieni, gofalwyr ac arbenigwyr.

"Mae addysg broffesiynol ac adnoddau o'r radd flaenaf yn y maes hwn yn amlwg yn flaenoriaeth ac ry'n yn cydweithio'n agos gydag athrawon a sefydliadau i sicrhau bod darpariaeth o'r radd flaenaf ar gael i bawb."

Bydd trafodaeth a phleidlais ar y Cod ym mis Rhagfyr ac os yw'n cael ei gymeradwyo bydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr ac yn cael ei ddysgu mewn ysgolion ym mis Medi 2022.

Bydd y stori i'w gweld yn llawn ar Wales Live ar 大象传媒1 Cymru am 22:30 nos Fercher

Os ydych chi neu unrhyw un rydych yn ei adnabod wedi cael eich/ei effeithio gan unrhyw fater a drafodir yn yr erthygl, mae modd cael gwybodaeth a chefnogaeth drwy'r linell gymorth yma.