Iawndal i gyn is-bostfeistr wedi brwydr am gyfiawnder
- Cyhoeddwyd
Mae cyn is-bostfeistr o F么n a gafodd ei garcharu ar gam wedi croesawu'r cyfle i allu dechrau ad-dalu'r perthnasau a ffrindiau a helpodd i'w gynnal yn ariannol yn ystod brwydr hir am gyfiawnder.
Daeth i'r amlwg nos Lun bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i dalu iawndal yr holl is-bostfeistri a gafodd eu herlyn ar gam am ddwyn arian a chyfrifo ffug yn sgil nam gyda system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post.
Cafodd euogfarnau yn erbyn Noel Thomas o'r Gaerwen a channoedd o unigolion eraill yn yr un sefyllfa eu dileu ym mis Ebrill.
Roedd Swyddfa'r Post wedi dweud nad oedden nhw mewn sefyllfa i dalu'r iawndal, ond fel unig gyfranddaliwr y gwasanaeth mae'r llywodraeth wedi cytuno i gamu i'r adwy.
Mae disgwyl i ragor o fanylion gael eu cyhoeddi yn y Senedd yn Llundain, ac yn dilyn y cyhoeddiad hwnnw bydd modd bwrw ymlaen i drafod maint yr iawndal ymhob achos unigol.
Roedd Swyddfa'r Post wedi setlo achos ym mis Rhagfyr 2019 gyda 555 o hawlwyr, gan gytuno i dalu cyfanswm o 拢58m heb dderbyn atebolrwydd, ond fe aeth mwyafrif helaeth yr arian hwnnw at gostau cyfreithiol.
Cafodd Mr Thomas ddedfryd o naw mis o garchar yn 2006 ar 么l i 拢48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon.
Roedd ond wedi pledio'n euog i gyhuddiad o gadw cyfrifon ffug ar sail cyngor cyfreithiol ac yn y gobaith o osgoi carchar, a hynny wedi i Swyddfa'r Post ollwng cyhuddiad o ddwyn arian.
Fe gollodd ei fywoliaeth "dros nos" - roedd yn ennill 拢30,000 y flwyddyn gyda Swyddfa'r Post a rhyw 拢15,000 am fod yn gynghorydd sir - ac fe aeth yn fethdalwr.
Gan ymateb ar raglen Dros Frecwast i gyhoeddiad Llywodraeth y DU, dywedodd Mr Thomas: "'Dan ni fel gr诺p wedi bod yn cwffio ers blynyddoedd - i mi maen o 'di bod bron iawn yn 16 mlynedd."
Ffrindiau a pherthnasau 'wedi helpu fi'
Dywedodd ar y rhaglen ei fod eisoes wedi derbyn rhagdaliad o 拢100,000.
"Mi gyrhaeddodd, diolch byth, w'sos dwytha' ond wrth gwrs mae'r rhan fwyaf o hwnnw'n mynd i dalu 'nyledion, mewn ffordd.
"O'dd rhywun wedi ca'l ei ada'l mewn dyled ac mi o'dd pobol - ffrindia' a teulu - wedi helpu fi allan.
"Tydi o'm yn mynd i ddod 芒 beth sy' wedi digwydd [o ran colledion ariannol] yn 么l."
Bydd Mr Thomas, sydd ar fin cael ei ben-blwydd yn 75 oed, yn treulio'r diwrnod wrth ei waith mewn canolfan arddio ble "bydd cydweithwyr yn fy nghael i drwyddi" pan fydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi am yr iawndal i'r cyn is-bostfeistri.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019