Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dargyfeirio staff clinigol i gyflymu'r rhaglen frechu
Bydd staff clinigol yn symud i ganolfannau brechu wrth i'r GIG flaenoriaethu rhoi trydydd pigiad Covid i gymaint o bobl 芒 phosib cyn diwedd y mis, medd Gweinidog Iechyd Cymru.
Bydd yna hefyd gais i staff ganslo'u gwyliau a gweithio mewn clinigau "ddydd a nos hyd at a thros y Nadolig i frechu cannoedd ar filoedd o bobl mewn mater o wythnosau".
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd camau i estyn oriau agor canolfannau brechu, agor rhagor o ganolfannau, a threfnu mwy o gyfleoedd i bobl gael brechiad heb drefnu apwyntiad o flaen llaw.
Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn gobeithio y bydd pawb yn cael brechiad atgyfnerthu "cyn i frig y don Omicron ein taro".
Mae 30 achos Omicron wedi eu cadarnhau yng Nghymru hyd yn hyn, ac mae canolfannau brechu torfol eisoes ar agor rhwng 09:00 a 20:00.
Yn y dyddiau nesaf, bydd pawb sydd wedi cael dau frechiad yn cael eu gwahodd, trwy alwad ff么n neu neges destun, i gael trydydd pigiad.
Bydd y gwahoddiadau hynny'n dal yn blaenoriaethu brechu unigolion ar sail oedran a chyflyrau meddygol blaenorol.
Dywedodd Ms Morgan y bydd yna "dair wythnos o brysurdeb mawr" yn y gobaith y bydd modd ddychwelyd "i ryw fath o normalrwydd" wedi hynny.
Yn 么l y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol sy'n gyfrifol am y rhaglen frechu, Dr Gill Richardson fe allai "rhai gwasanaethau" meddygol "arafu fymryn" yn ystod y cyfnod dan sylw.
Dywedodd Ms Morgan mai'r "peth olaf ry'n ni eisiau gwneud yw canslo'r Nadolig... ond yn sicr nid ydym yn diystyru dim byd 'chwaith".
"Y peth gorau i bobl wneud... i ni barhau mewn sefyllfa ble gallwn ni weld ein gilydd dros y Nadolig yw cymryd camau rhagofal nawr fel na welwn ni'r cynnydd ry'n ni'n ei ddisgwyl mewn cyfraddau achosion."
Ymddiheurodd nad yw'n gallu cadarnhau a fydd yna gyfyngiadau pellach erbyn diwrnod Nadolig "oherwydd rydyn ni wir ddim yn gwybod pa mor gyflym bydd amrywiolyn Omicron yn lledu".
Ychwanegodd: "Er taw brechu yw'r amddiffyniad gorau rhag coronafeirws, bydd angen sawl haen o fesurau i gadw Cymru'n ddiogel rhag ton Omicron fawr.
"Rydym eisoes wedi cymryd camau i gynyddu'r camau amddiffyn yng Nghymru ond mae'n debygol y bydd angen mwy wrth i'r amrywiolyn ymblannu yn ein cymunedau."
Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyhoeddi canlyniadau'r adolygiad nesaf o'r canllawiau coronafeirws ddydd Gwener, wedi penderfyniad yr wythnos diwethaf i'w hadolygu'n wythnosol yn lle bob tair wythnos.
'Dryswch yn parhau'
Mae'r gwrthbleidiau'n galw am well gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru i'r cyhoedd ynghylch trefnu trydydd pigiad.
Yn 么l llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George mae yna "elfen o ddryswch" yn neges gweinidogion Cymru ynghylch brechiadau atgyfnerthu ac mae angen gwybodaeth gliriach i'r cyhoedd.
"Rydw i'n barod i gael fy mrechiad atgyfnerthu [ond] dydw i heb gael neges destun, dydw i heb gael gwybod beth mae angen i mi wneud," meddai.
"Bydd llawer o bobl yn yr un sefyllfa."
"Ffuantus" yw disgrifiad llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth o neges y llywodraeth Lafur i bobl ddod ymlaen am y brechiadau.
"Mae yna ddisgwyliadau uchel iawn gan y cyhoedd ond rydw i eto i weld sut bydd yn cael ei weithredu yn ymarferol," dywedodd.
"Nid diffyg pobl yn dod ymlaen ydi'r broblem ymhlith fy etholwyr ond rhwystredigaeth pobl sydd ddim yn gwybod pa bryd maen nhw am gael eu brechu."
Sesiynau i'r mwyaf bregus
Yn ddiweddarach yn y Senedd, fe wnaeth Ms Morgan fanylu ymhellach ar sut y byddai canolfannau brechu'n cael eu gweithredu.
Dywedodd Ms Morgan y byddai sesiynau 'cerdded i mewn' i bobl heb apwyntiad, ond y byddai'r rheiny i bobl mewn grwpiau bregus.
Dywedodd na fyddai'n dilyn y drefn yn Lloegr, ble mae unrhyw un yn cael mynd i ganolfan frechu heb apwyntiad, sydd wedi golygu ciwiau hir mewn rhai ardaloedd.
Ychwanegodd: "Dydy o ddim yn rhydd i bawb droi fyny fel yn Lloegr. Dydyn ni ddim eisiau gweld pobl yn rhynnu tu allan yn ganol y gaeaf, fel sy'n digwydd yn Lloegr."