Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfyngiadau ar dorfeydd chwaraeon yn 'hollol hurt'
Mae cyfyngiadau newydd Llywodraeth Cymru ar ddigwyddiadau chwaraeon wedi cael eu beirniadu fel rhai "hollol hurt", gydag ansicrwydd ymysg nifer o glybiau am sut i'w gweithredu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gemau chwaraeon yn cael eu cynnal y tu 么l i ddrysau caeedig o 26 Rhagfyr ymlaen er mwyn helpu i reoli lledaeniad amrywiolyn Omicron Covid-19.
Mae'r cyfyngiadau yn berthnasol i bob digwyddiad chwaraeon dan do, awyr agored, proffesiynol a chymunedol.
Ond mae'n ansicr ar hyn o bryd beth yn union fydd yn dod o dan y rheolau newydd, yn enwedig ar lefel gymunedol a chwaraeon plant.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd mwy o fanylder ar y materion hynny yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Fe wnaeth Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn ar Twitter.
Dywedon nhw ar gyfer eu g锚m nesaf, ar y funud, y bydd modd i'r clwb a'r bar fod ar agor yn llawn heb unrhyw gyfyngiadau, ond na fyddai cefnogwyr yna'n cael mynd tu allan i'r awyr agored i wylio'r g锚m.
'Ergyd i goffrau'r clybiau'
Ychwanegodd cadeirydd Clwb Rygbi Uplands Abertawe, Cameron Lowe fod y cyfyngiadau diweddaraf yn "bendant yn mynd i'n taro ni, a nifer o glybiau eraill, yn eithaf caled".
"Mae angen i ni weld ble fydd y llinell rhwng beth sy'n cael ei ddiffinio fel cefnogwr sy'n gwylio'r g锚m yn fyw, ac os fydd modd i bobl barhau i ddod i gael cwrw yn y bar a gwylio chwaraeon ar y teledu," meddai.
"Mae'r math yna o fanylion am wneud gwahaniaeth i chwaraeon ar lefel gymunedol.
"Os nad ydy cefnogwyr yn cael mynd i'r clwb a chael cwrw ac ychydig o fwyd, mae hynny'n mynd i fod yn ergyd i goffrau'r clybiau."
Dywedodd cadeirydd Y Seintiau Newydd, Mike Harris mai'r cyfan y bydd y rheolau newydd yn ei wneud ydy "gyrru pobl i mewn i dafarndai a thai pobl eraill", a gyrru nifer o gefnogwyr dros y ffin i wylio eu timau oddi cartref.
"Dydyn ni ddim eisiau gorfodi pobl i wneud y siwrneiau hynny dros y ffin er mwyn mynd i'w wylio rhywle arall," meddai ar Radio Wales.
"Mae'n hollol hurt - bydd g锚m Abertawe yn Millwall ymlaen [ar 糯yl San Steffan], a Llundain sydd 芒'r niferoedd uchaf o achosion Omicron.
"Bydd cefnogwyr yn neidio yn y car neu ar y tr锚n ac yn mynd i wylio'r g锚m yn fyw ym Millwall."
Er bod stadiwm y Seintiau dros y ffin yn Lloegr, dywedodd y bydd yn rhaid i'r clwb ddilyn rheolau Cymdeithas B锚l-droed Cymru am eu bod yng nghynghreiriau Cymru.
Mae'r gymdeithas b锚l-droed wedi dweud eu bod yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf, ac y byddan nhw'n rhyddhau datganiad maes o law.
'Siom i'r cefnogwyr'
Yn ymateb i'r newyddion dywedodd Robin Edwards, cefnogwr Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Wrecsam ei fod yn "siom i'r cefnogwyr i gyd bod o'n digwydd, ac mor gyflym hefyd".
Ychwanegodd ei fod yn teimlo fod y llywodraeth wedi colli cyfle i ehangu'r cynllun pasys Covid yn hytrach na gorfod cau stadiymau yn llwyr.
"Maen nhw wedi bod yn annog pawb i gael y Covid passports ac ati ar 么l y jabs a'r boosters -聽maen nhw wedi bod yn聽defnyddio y Covid passports mewn torfeydd o dros 10,000 o ffans," meddai ar Dros Frecwast.
"Pam bo' nhw jyst ddim yn cyflwyno rheiny a 'neud o i lai o dorf? Mae Wrecsam fel arfer yn cael rhwng 8,000 a 9,000 - 'sa hi wedi bod yn gyfle i ddefnyddio rheiny.
"Mewn ffordd mae'r cam yna wedi diflannu, ac wedi mynd yn syth i ddim cefnogwyr o gwbl.
"Yn Wrecsam mae 'na gemau oddi cartref yn Altrincham a Notts County. Beth fydd yn debygol o ddigwydd r诺an yw bod mwy o bobl yn mynd i fanna rhwng y Dolig a'r Flwyddyn Newydd, sydd ddim yn mynd i helpu.
"Gyda mwy o bobl o bosib yn dod ag Omicron yn 么l - falle bod o'n counterproductive o bosib."