Ateb y Galw: Dafydd Wyn

Ffynhonnell y llun, Dafydd Wyn

Y cyflwynydd Dafydd Wyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Hana Medi yr wythnos ddiwethaf.

Yn wreiddiol o bentref Llandudoch ger Aberteifi ond mae wedi byw yng Nghaerdydd ers 2009, ar 么l symud yno i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Erbyn heddiw, cyflwynydd ar Heno a Prynhawn Da yw Dafydd ond mae wedi gweithio ar amryw o raglenni teledu eraill hefyd fel Newid Hinsawdd: Newid Byd, Ar y Bysus a GRAV yn Efrog Newydd.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Sa' i'n si诺r os mai hwn yw'r atgof cynta' ond un o'r rhai cynhara' yw tynnu tato, pys a mefus o'r ardd gyda Mamgu yn Llando'ch.

Wedd ardd fawr 'da hi a llwyth o flode, llysie a ffrwythe yn tyfu ynddi. Bydde'r pys a mefus ddim yn cyrraedd y bowlen yn aml achos fydden i wedi'u byta nhw!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ffynhonnell y llun, Dafydd Wyn

Disgrifiad o'r llun, Dafydd a Catrin

Anodd dewis un noson ond un sy'n y cof yn ddiweddar yw Nos Galan 2019. Wnes i, fy nghariad Catrin a gr诺p o ffrindiau aros mewn bwthyn yn y gorllewin.

Fe wishgon ni fel cymeriade o'r Great Gatsby, chwarae murder mystery, cynnau sparklers am 12, a phan a'th hi'n hwyr na'th un ffrind greu cocktail newydd o'r enw 'Jin Livener' i gadw'r parti i fynd!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Penderfynol, lwcus, hapus.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ges i'n fagu eiliadau o'r d诺rac ychydig funude o draeth Poppit, ond bydde rhaid i fi setlo ar Ceibwr.

Mae'n encil bach tawel ac yn le i'r enaid anadlu. Fyddai wastad yn ymlacio'n llwyr wrth eistedd ar y cerrig ac edrych mas ar y d诺r.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl 'n么l?

Ffynhonnell y llun, Dafydd Wyn

N么l yn 2017, we'n ffrind Ian a fi'n weision priodas i'n ffrind, Rhys.

Er we trefnu'r stag a phethe tebyg yn hwyl, ciliodd hynny pan sylweddolon ni bod rhaid ysgrifennu araith. Ma' wastod pwyse mowr ar y best man speech na wes e?!

Fe benderfynon ni esgus ein bod ni wedi 'anghofio' ein haraith ni ac wrth redeg mas fe ddechreuodd ffilm chwarae ar sgr卯n deledu. Ychydig wythnose cyn y briodas, fe deithiodd Ian a fi Gymru benbaladr (aethon ni ar gwch, i stiwdio y rhaglen Heno, fferm, Ynys M么n, maes awyr Caerdydd - pob math o lefydd!) yn ffilmio ni'n 'chwilio' am yr araith a mynd i hoff lefydd y g诺r a'r gwraig (Rhys a Naomi).

Wrth redeg yn 么l i mewn fe gawson ni standing ovation a mae'r teimlad hwnnw yn 'neud i fi wenu hyd heddi!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gormod o gywilydd i weud wrthoch chi...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Torri winwns i swper neithwr.

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dw i'n gallu bod yn eitha diamynedd ... ond mae'n rhywbeth dw i'n ymwybodol iawn ohono!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

We ni arfer joio darllen ond heb godi llyfr a'i orffen i'r bennod ola' un ers sbel.

Fyddai'n gwrando ar bodlediad yn y car bob dydd gan fod y siwrne i'r gwaith a 'n么l yn ddwy awr - My Favorite Murder a Criminal yn rhai da.

Ond ffilm i fi bob tro. Sdim maeddu ar Harry Potter (y rhai hwyra') ond hefyd ffilmiau fel Inception neu Shutter Island.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Dadcu BV.

Er iddo fyw tan ei nawdegau, sa' i'n credu nes i ofyn digon o gwestiyne iddo am am ei fywyd. Wedd e'n dipyn o gymeriad a bydde sawl pearl of wisdom 'da fe i fi heddi fi'n siwr!

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Wyn

'N么l yn 2016, nes i gerdded i Base Camp Everest!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gweld yr haul yn gwawrio ar dop Moel Mwnt gyda Catrin.

Wedyn mofyn coffi a doughnut o Crwst ar gyfer w芒c fach rownd Llando'ch (mae'n bentre' mowr so bydd ishe cwpwl o orie!) gyda phwy bynnag lice ddod, ac yna trefnu BBQ ar draeth Ceibwr gyda theulu a ffrindiau agos.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Ffynhonnell y llun, Dafydd Wyn

Disgrifiad o'r llun, Am dro Cymdeithas MS

Teulu ac ambell ffrind yn cymryd rhan mewn w芒c gyda Chymdeithas MS ym Mharc Biwt fis Hydref 2021. Wal fowr oren o gefnogaeth i'r Gymdeithas a rheiny sydd gyda'r cyflwr.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Boris. Jyst i weld beth sy'n mynd mlan yn ei ben a rhoi gwd cribad i'r gwallt 'na.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Rhys Griffiths