Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid: Dim llacio'n syth yn sgil cyfradd 'uchel iawn'
Dyw cyfyngiadau Covid ddim yn cael eu llacio'n syth gan fod cyfradd achosion Cymru'n "dal yn uchel iawn" yn 么l y Gweinidog Iechyd.
Roedd Eluned Morgan yn ymateb i alwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig i lacio mesurau'n gynt.
Bydd Cymru'n dychwelyd i lefel rhybudd sero erbyn 28 Ionawr, gyda chyfyngiadau ar dorfeydd chwaraeon yn cael eu llacio a chlybiau nos yn ail agor.
Dywedodd ei bod yn derbyn bod y cyfraddau'n gostwng yn gyflym ond eu bod yn parhau yn uchel - 572 o achosion fesul bob 100,000 o'r boblogaeth.
Ond, ychwanegodd nad ydym wedi "gweld diwedd" ton Omicron eto.
Fe wnaeth Eluned Morgan wadu bod y llywodraeth wedi gorymateb i fygythiad Omicron trwy gyflwyno cyfyngiadau pellach ar ddydd San Steffan i fusnesau lletygarwch a gemau chwaraeon.
Dywedodd bod "dadansoddiad cychwynnol" yn awgrymu y byddai 69,000 o achosion ychwanegol yng Nghymru pe na fyddai'r cyfyngiadau wedi'u cyflwyno.
"Mae ein dadansoddiad cychwynnol wir yn ddadansoddiad cychwynnol - mae'n awgrymu fod tua 170,000 o bobl yng Nghymru wedi cael Covid ar un pwynt ac mae hynny'n ddigon i lenwi Stadiwm y Mileniwm tua dwy a hanner o weithiau.
"Pe na fyddem ni wedi cyflwyno cyfyngiadau, byddai gyda ni 69,000 yn rhagor o bobl 芒 Covid. Felly mae hynny'n ddigon i bron 芒 llenwi Stadiwm y Mileniwm eto.
Ond fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd bod y modelu roedd Llywodraeth Cymru yn dibynnu arno yn seiliedig ar "ddata amherffaith".
"Dw i'n gobeithio y gallwn ni wneud ychydig mwy o ddadansoddi rhifau. Yn amlwg, mae'n briodol i ni ddadansoddi ar 么l y digwyddiad.
"Ry'n ni'n awyddus iawn i ddysgu, ry'n ni i gyd yn dysgu yma. Mae hwn yn amrywiolyn newydd. Chi'n gwybod, doedd neb wedi clywed am Omicron dim ond mis a hanner yn 么l.
'Cyrraedd y brig yn gynt na'r disgwyl'
Dywedodd Eluned Morgan bod brig y don wedi cyrraedd yn gynt na'r disgwyl ac na welwyd cymaint o dderbyniadau i ysbytai a oedden nhw wedi rhagweld.
"Felly roedd ychydig o'r modelu hynny efallai ddim lle'r oedden ni wedi meddwl y byddai, ond mewn ffordd dda."
Dywedodd Ms Morgan ei bod yn credu bod gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi "ei chael hi bron 芒 bod yn gywir ac yn amlwg, amser a ddengys os gafon ni hi'n gywir."