Hosbis yn cyhuddo bwrdd iechyd o 'gymryd mantais'

Disgrifiad o'r llun, Mae Hosbis Dewi Sant yn cynnig gofal diwedd oes yn y gogledd
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae hosbis yn y gogledd wedi cyhuddo'r bwrdd iechyd lleol o gymryd mantais ac ecsbloetio eu gwasanaethau yn sgil ffrae dros ariannu.

Yn 么l Hosbis Dewi Sant, mae yna "fygythiad clir" i'r gofal y mae modd ei gynnig oni bai fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cytuno i drafod model ariannu newydd.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad gwerth 拢2.2m i hosbisau yng Nghymru ym mis Ionawr, ond mae yna bryderon nad ydy hynny'n ddigon i achub a chynnal y ddarpariaeth.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro am yr oedi o ganlyniad i Covid, gan ychwanegu eu bod nhw wedi cysylltu gyda'r hosbis i drafod taliadau.

Mae gan Hosbis Dewi Sant nifer o safleoedd ar draws y gogledd sydd yn cynnig gofal diwedd oes i gleifion ynghyd 芒 thriniaethau arbenigol eraill.

Ar hyn o bryd mae tua 15% o'u hincwm yn dod o'r bwrdd iechyd a'r gweddill yn dod o ffynonellau eraill, fel siopau elusen a chodi arian.

Mae'r hosbis am weld hynny'n cynyddu i 30%, yn debyg i'r drefn mewn rhai hosbisau yn ne Cymru a dros y ffin yn Lloegr.

''Dio ddim digon da'

"Mae eu hanallu nhw fel bwrdd iechyd i ddod at ffigwr teilwng yn anodd iawn i ni," meddai Trystan Pritchard, prif weithredwr Hosbis Dewi Sant.

"Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd sylweddoli bod angen talu am y gwasanaethau arbenigol yma ac mae'n rhaid iddyn nhw chware eu rhan.

Disgrifiad o'r llun, Mae Trystan Pritchard am weld y bwrdd iechyd yn "chwarae eu rhan"

Mae Mr Pritchard hefyd yn rhybuddio y gallai'r hosbis orfod torri gwasanaethau gofal a thorri capasiti gwl芒u oni bai fod newid i'r drefn, gan alw ar y bwrdd iechyd i fynychu trafodaethau call am gyllid.

"Mae'n rhaid iddyn nhw ddod 'n么l efo cynnig realistig a sylweddoli da ni'n rhan ganolog o gofal diwedd oes, a pheidio cymryd mantais - 'dio ddim digon da."

Er hyn mae Hosbis Dewi Sant yn dweud eu bod nhw'n croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru, y cynnydd ariannol statudol cyntaf ers 2007.

'Gwaith amhrisiadwy'

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd y telynor Dylan Cernyw na fyddai wedi gallu gofyn am le gwell i ofalu am ei fam

Mae hi bron yn union flwyddyn ers i fam y telynor Dylan Cernyw, Beryl Roberts, farw o ganser.

Yn y pedwar diwrnod cyn iddi farw, fe dderbyniodd Ms Roberts ofal "anhygoel" yn Hosbis Dewi Sant, meddai ei theulu.

Arferai Ms Roberts weithio i'r bwrdd iechyd, ac mae'n cael ei disgrifio fel un oedd ag "organ o lais alto".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Beryl Roberts bron i flwyddyn yn 么l

"Mae 'na feddwl mawr o'r hosbis yn yr ardal yma a'u gwaith - mae'n amhrisiadwy," meddai Dylan Cernyw.

"Roedd mam yn hapusach yna ar 么l bod yn rhan o'r t卯m fu'n agor y lle... mi oedd hi'n 'nabod y lle".

Mae Dylan a'i deulu yn dweud fod y gofal a gafodd eu mam wedi bod yn gynhaliaeth ac yn achubiaeth, ond mae'n dweud dim ond "hyn a hyn" o godi pres mae modd i'r cyhoedd ei wneud a bod angen buddsoddiad teg.

"Mae angen edrych yn ofalus ac yn seriws iawn," meddai.

"Mae gwerth yr hosbis yn aruthrol yn yr ardal yma, ac mae angen edrych yn iawn a rhoi arian mewn i'r gofal yma."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Ms Roberts yn cyflwyno siec i Hosbis Dewi Sant rhai blynyddoedd yn 么l

Yn 么l Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae oedi wedi bod yn broblem yn sgil amrywiolyn Omicron - ac fe ymddiheurodd Dr Chris Stockport o'r bwrdd iechyd am hynny.

"Rydym wedi cytuno y byddai cynnydd mewn buddsoddiad yn deg, ac fe allaf gadarnhau ein bod ni wedi cysylltu gyda'r hosbis i drafod taliadau," meddai.

"Rydym yn gwerthfawrogi a gweld gwerth yn yr hyn mae'r hosbis yn ei wneud ac rydym am sicrhau perthynas da gyda'r hosbis."

'Gwneud bywyd yn haws'

Disgrifiad o'r llun, Un o wasanaethau pwysica'r hosbis plant, T欧 Gobaith, ydy gofal ysbaid

O fuddsoddiad 拢2.2m Llywodraeth Cymru, mae 拢888,000 wedi ei rannu rhwng hosbisau plant T欧 Gobaith yn y gogledd a Th欧 Hafan yn y de.

Yn 么l T欧 Gobaith, mae'r buddsoddiad yma yn golygu y bydd modd cyflogi rhagor o nyrsys yn y gymuned a gwasanaethu mwy o deuluoedd.

"Da ni'n ei groesawu o'n fawr", meddai Angharad Davies, Pennaeth Gofal T欧 Gobaith.

"Da ni'n gwybod mai mwy o ysbaid sydd ei angen ar y teuluoedd hyn a da ni angen ymestyn allan i'r gymuned mwy."

Un o'r gwasanaethau pwysicaf i deuluoedd ydy gofal ysbaid.

Disgrifiad o'r llun, Mae treulio amser yn Nh欧 Gobaith yn gwneud bywyd yn haws i Carson a'i deulu

Un sydd wrthi'n treulio'r wythnos gyfan yn Nh欧 Gobaith ydy Carson Jones, sy'n 14 oed ac yn byw efo Dystroffi'r Cyhyrau Duchenne.

"Mae'n gwneud bywyd yn haws i fi a rhieni fi.

"Oherwydd yr offer a'r gofal yma mae o'n rili gwerthfawr - mae o mor bwysig, mae o bron fel gwyliau i fi.

"Yn amlwg mae o well yma nag adref gan bod gymaint o stwff a chyfarpar i helpu - mae'n wych."