大象传媒

Protest yn erbyn israddio Ysbyty Llwynhelyg Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Protest Llwynhelyg

Fe ddaeth tua 300 o bobl ynghyd i rali "deuluol" tu allan i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ddydd Mercher i brotestio yn erbyn cynlluniau i israddio'r ysbyty a chau'r adran frys.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dweud y bydd 'na fuddsoddiad i ysbytai Llwynhelyg a Glangwili yng Nghaerfyrddin, ond fe fydd y ddau safle yn colli eu hadrannau damweiniau ac achosion brys, gydag unedau m芒n anafiadau yn eu lle.

Mae'r cynllun yn rhan o brosiect gwerth 拢1.3bn y bwrdd iechyd ar gyfer gwasanaethau ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Dan y cynlluniau, bydd ysbyty cyffredinol newydd yn cael ei adeiladu rhwng Sancl锚r ac Arberth.

Dadl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw eu bod nhw'n ymestyn eu gwasanaethu nhw dros ormod o safleoedd ar hyn o bryd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth tua 300 o bobl ynghyd i'r brotest tu allan i Ysbyty Llwynhelyg ddydd Mercher

"Dwi'n hollol yn erbyn cau A&E yn Ysbyty Llwynhelyg oherwydd bod e mor bell o ysbytai eraill," meddai Moira Lewis, o Wdig, fu'n ymgyrchu yn y rali.

"Os fydden ni'n gorfod teithio i Lanelli neu Gaerfyrddin fydden i'n colli amser achos o Wdig i Gaerfyrddin mae'n 44 milltir, a ma' ambiwlansys ddim yn troi lan mor gloi 芒 gallen nhw chwaith.

"Mae hyn i gyd yn ychwanegu at y pwysau, ac ar ddiwedd y dydd mi allai rhywun farw cyn cyrraedd."

Un o'r rheiny fu'n mynychu'r brotest oedd yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd ar gyfer Preseli Penfro, Paul Davies, ddywedodd y byddai cau'r adran frys yn "rhoi bywydau pobl mewn perygl".

"Ry'n ni'n clywed llawer gan staff iechyd am yr 'awr aur', ac fe fyddai gorfod mynd o ardaloedd fel Abergwaun neu Dyddewi i rywle i'r dwyrain o fan hyn yn rhoi bywydau pobl mewn perygl," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Huw Thomas o'r bwrdd iechyd ei fod yn cydnabod y bydd y newidiadau'n "achosi pryder i bobl"

Dywedodd cyfarwyddwr cyllid y bwrdd iechyd, Huw Thomas ei fod yn deall gofid pobl yngl欧n 芒 newid i wasanaethau.

"Fi'n deall y pryderon sydd gyda phobl. Yn naturiol, mae newid o'r math hyn yn mynd i achosi pryder i bobl," meddai.

"Mae 'na sawl her y'n ni'n ceisio datrys gyda'r datblygiadau newydd - yn gyntaf, mae'n amlwg fod angen i ni edrych ar gyflwr yr yst芒d.

"Mae gennym ni broblem gyda recriwtio, a lledaenu ein gwasanaethau yn rhy eang ar draws y bwrdd iechyd, felly mae dod 芒'n gwasanaethau at ei gilydd fel hyn yn fodd o ddelio gyda'r heriau hynny.

"Hefyd mae heriau o ran perfformiad gyda ni ar hyn o bryd. Mae pobl yn aros gormod o amser ar y drws ffrynt, ac mae'n rhestrau aros ni yn rhy hir.

"Felly mae'r cynllun hyn yn rhan o strategaeth fwy eang i ddatblygu gwasanaethau ar draws y gorllewin, gan ddechrau yn y cartref, wedyn yn y gymuned gyda meddygon teulu, ac yn olaf gyda'r ysbyty.